Mae Teithio a Thwristiaeth yn ddiwydiant deinamig sy’n newid yn barhaus. Mewn astudiaeth ddiweddar, dywedodd Deloitte mai twristiaeth yw’r sector sy’n tyfu gyflymaf yn y DU ers bron i ddeng mlynedd.
Y darlun mawr – yr economi dwristiaeth: sicrhau swyddi a thwf
Ffynhonnell: www.vistibritain.org
Mae’r adran twristiaeth yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau o lefel 1 i 7. Mae gan y staff proffesiynol, cyfeillgar a hawdd mynd atynt brofiad helaeth sy’n berthnasol i’r diwydiant a dealltwriaeth o’r sector yn y byd go iawn. Mae cynnwys y cwrs yn cynnwys cynllunio busnes ar gyfer twristiaeth, gyda myfyrwyr yn cael eu harwain wrth drefnu digwyddiadau a chynllunio a rhedeg teithiau tywys gweithredwyr llawn. Mae myfyrwyr yn datblygu sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid a marchnata digwyddiadau ac yn adeiladu sgiliau gwaith tîm ac arweinyddiaeth – y cwbl yn sgiliau trosglwyddadwy.
Mae gan yr adran hanes profedig o’r safonau uchaf o ofal myfyrwyr a llwyddiant academaidd.
Mae’r sector twristiaeth yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth yn fyd-eang, yn genedlaethol ac yn lleol.
Yn y pedair blynedd diwethaf, cynyddodd cyflogaeth yn y sector twristiaeth yn ne Cymru o 29,000 i 31,100 gyda thwristiaeth yn cyfrif am 10% o’r swyddi yng Nghymru.
Mae cyfleoedd cyflogaeth yn cynnwys gweithio mewn digwyddiadau, atyniadau ymwelwyr, marchnata, adnoddau dynol, rheoli a datblygu twristiaeth, twristiaeth wledig, rheoli gwestai, cynllunio priodasau, criw awyrennau, gwaith mewn asiantaeth teithio, bod yn gynrychiolydd dramor neu ar long fordaith.
Gwiriwch ein tudalen Facebook am ddigwyddiadau a gwybodaeth a’n tudalen Instagram am luniau a fideos.