Gwobr Lefel 2 FAA (Gwobrau Cymorth Cyntaf) mewn Cymorth Cyntaf ar gyfer Iechyd Meddwl (Rhan-Amser)

Crynodeb o’r cwrs

Mae materion iechyd meddwl yn y gweithle yn bodoli ac yn effeithio ar bob unigolyn. Bellach, yn fwy nag erioed, anogir busnesau i berchnogi lles gweithwyr a gallwn eich helpu i gyflawni hyn.

Mae’r cwrs hwn yn cwmpasu cynnwys Ymwybyddiaeth Lefel 1 FAA ar gyfer Cymorth Cyntaf ar gyfer Iechyd Meddwl ac yn ehangu ar effeithiau cyffuriau ac alcohol, yn ymgorffori’r Cynllun Gweithredu Cymorth Cyntaf ar gyfer Iechyd Meddwl ac yn ymdrin â ffyrdd y gellir cefnogi diwylliant iechyd meddwl cadarnhaol o fewn gweithle.

Beth yw Cymorth Cyntaf ar gyfer Iechyd Meddwl?
– Nodi cyflyrau iechyd meddwl
– Rhoi cyngor a dechrau sgwrs
– Straen
– Cyflyrau iechyd meddwl
– Cyffuriau ac alcohol
– Cynllun gweithredu Cymorth Cyntaf ar gyfer Iechyd Meddwl
– Cymorth Cyntaf ar gyfer Iechyd Meddwl yn y gweithle

  • Gofynion Mynediad

    Dim

  • Crynodeb o'r canlyniadau

    Mae'r cwrs hwn yn addas ar gyfer y rhai sydd am ennill ymwybyddiaeth ddyfnach o gymorth cyntaf iechyd meddwl yn y gweithle.

  • Modiwlau’r cwrs

    Mae cyllid ar gael, yn amodol ar gymhwysedd, cysylltwch â ni i ddarganfod mwy.

  • Dull Asesu

    Asesir y cymhwyster trwy ystod o ddulliau gan gynnwys asesiadau ymarferol, cwestiynau agored a amlddewis.

Lleoliad

Lleoliadau ar draws Cymru neu’n fewnol yn lleoliad eich busnes

Course length

1D

Fee

£0 – funding available, subject to eligibility