Sut i Ymgeisio

Dewiswch y cwrs neu’r pwnc sydd o ddiddordeb i chi

Trwy bori trwy ein gwefan a dod i’n digwyddiadau agored, bydd modd i chi gael syniad o ba gwrs neu bwnc a allai fod o ddiddordeb i chi.

Unwaith eich bod wedi dod o hyd i gwrs neu bwnc sydd o ddiddordeb i chi, gallwch e-bostio business@nptcgroup.ac.uk gyda’ch enw, manylion cyswllt a’r cawrs yr hoffech fwcio lle arno. Bydd un o’n Cynghorwyr Cysylltiadau Cwsmeriaid wedyn yn delio â’ch galwad neu’ch e-bost ac yn symud ymlaen i gam nesaf y broses sy’n cynnwys darparu gwybodaeth am y cwrs a’r dyddiadau sydd ar gael ar gyfer y cyrsiau perthnasol.

Cyllid

Os ydych yn unigolyn sy’n ystyried ymgeisio am un o’n cyrsiau, mae nifer o ffynonellau cyllido ar gael gennym gan ddibynnu ar eich statws cyflogaeth/di-weithdra, ac mae hyn oll yn cwmpasu meini prawf cymhwysedd gwahanol felly mae telerau ac amodau yn berthnasol. Os nad yw unrhyw un o’r ffynonellau cyllido hyn yn berthnasol i chi, gallwch naill ai talu am gwrs trwy randaliadau neu dalu am y cwrs yn ei gyfanrwydd.

O ran yr opsiynau cyllido sydd ar gael i gyflogwyr, rydym yn darparu cymorth a chyfarwyddyd i fusnesau am sut i fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd cyllido hyn sydd ar gael, ar yr un pryd â sicrhau bod eich busnes yn cyflawni ei amcanion hyfforddi. Byddwn yn trafod yr opsiynau hyn â chi i weld pa gyllid y gall eich busnes ei dderbyn (mae prisiau ar ddisgownt a phrisiau ar gyfer archebion niferus ar gael).

Cliciwch yma am yr opsiynau cyllido,

Unwaith bod yr opsiynau cyllido wedi’u trafod ac mae llwybr talu wedi’i gytuno, byddwn wedyn yn prosesu’r taliad a symud ymlaen i’r cam nesaf.

Ffurflen archebu

Unwaith ein bod wedi prosesu eich taliad, byddwn wedyn yn anfon ffurflen archebu atoch i’w chyflawni a’i dychwelyd atom.

Cadarnhau’r Cwrs

Unwaith ein bod wedi derbyn eich ffurflen archebu, byddwn yn trefnu lleoliad y cwrs a’r nifer o fyfyrwyr mewn cydweithrediad â’ch tiwtor cwrs. Unwaith i’r holl wybodaeth cwrs gael ei chytuno arni, bydd e-bost o gadarnhad yn cael ei hanfon atoch a fydd yn cynnwys yr holl fanylion priodol ar gyfer y cwrs. Bydd hyn yn cynnwys dyddiad, amser, lleoliad ac unrhyw fanylion perthnasol eraill ynglŷn â’r cwrs.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill mewn perthynas â’r wybodaeth uchod, wedyn cysylltwch â ni trwy glicio ar y botwm glas isod.