Lluoswch: Rhifedd – Cyflwyno Data (Rhan Amser: eDdysgu)

Crynodeb o’r cwrs

Bydd y wers hon yn eich galluogi i ddarllen, deall, dehongli a chyflwyno gwybodaeth/canfyddiadau gan ddefnyddio tablau, siartiau, graffiau a diagramau. Bydd hefyd yn eich galluogi i benderfynu ar y dull gorau o gyflwyno’ch data yn glir.

Mae’r defnydd o ddata yn cynyddu ledled y byd i gyd. Mae hyn bron yn sicr oherwydd argaeledd cynyddol cyfrifiaduron a dulliau electronig o gasglu, trefnu a storio data. Mae data’n cyfleu gwybodaeth, felly mae data’n cael ei gyflwyno mewn ffordd sy’n galluogi’r sawl sy’n ei holi i ddeall rhywbeth am y byd a’r ffordd mae’n gweithio. Os yw poblogaeth gwlad yn cynyddu’n barhaus ond bod maint y bwyd a gynhyrchir yn aros yn ei unfan, yna bydd angen mewnforio mwy o fwyd. Gall cynrychioliad graffigol gyfleu’r pwynt hwn yn glir.

Mae’r wers hon yn cyflwyno dysgwyr i gyflwyno data mewn tablau, siartiau cylch, siartiau bar a graffiau llinell. Bydd dysgwyr yn gallu darllen, deall a dehongli gwybodaeth o dablau, diagramau, siartiau a graffiau syml. Yn ogystal, gallu dewis gwahanol ffyrdd o gyflwyno canfyddiadau a llunio tablau, siartiau, graffiau a diagramau cymhleth a labelu gyda theitlau, graddfeydd, echelinau ac allweddi priodol. Defnyddio amrywiaeth gyflym o eiriau allweddol fel tablau, siartiau bar a chylch, data arwahanol a pharhaus, siartiau, graffiau, holiadur, cyfrif ac amlder. Mae pynciau fel y dulliau cyflwyno gorau, mathau o ddata, tablau, siartiau cylch, graffiau bar a graffiau llinell yn cael eu cyflwyno mewn ffordd hawdd ei deall. Gyda chwestiynau gwirio gwybodaeth drwyddi draw ac asesiad ar y diwedd gall dysgwyr elwa o’r wybodaeth yn y wers hon.

Lleoliad

Lleoliadau ar draws Cymru neu’n fewnol yn lleoliad eich busnes

Course length

1H

Fee

£0 – funding available, subject to eligibility