Crynodeb o’r cwrs
Mae problemau iechyd meddwl yn y gweithle yn bodoli ac yn effeithio ar bob unigolyn. Mae busnesau nawr, yn fwy nag erioed, yn cael eu hannog i gymryd perchnogaeth o les cyflogeion a gallwn eich helpu i gyflawni hyn. Bydd ein cwrs ymwybyddiaeth yn rhoi hyder i staff wybod beth yw iechyd meddwl a sut i adnabod, darparu cyngor a chefnogi cyflyrau amrywiol.
-
Gofynion Mynediad
Mae'r cymhwyster hwn ar gael i ddysgwyr 18 oed neu hyn. Rhaid i ddysgwyr feddu ar y sgiliau llythrennedd i allu darllen a hunanddysgu'r llawlyfr cyfeirio ac adnoddau ychwanegol.
Bydd angen mynediad i gyfrifiadur gyda chysylltiad rhyngrwyd ar y dysgwr er mwyn cael mynediad i'r adnoddau dysgu o bell a chyfathrebu â'r Hyfforddwr/Aseswr.
-
Crynodeb o'r canlyniadau
Mae'n rhoi'r hyder i ddysgwyr wybod beth yw iechyd meddwl a sut i adnabod, darparu cyngor a chefnogi cyflyrau amrywiol mewn unrhyw amgylchedd.
-
Modiwlau’r cwrs
Mae'r cwrs hwn yn cwmpasu'r pynciau a ganlyn:
- Beth yw iechyd meddwl a pham mae pobl yn datblygu cyflyrau iechyd meddwl
- Rôl Cymorth Cyntaf i gefnogi iechyd meddwl
- Sut i ddarparu cyngor a chefnogaeth ymarferol i berson sy'n cyflwyno cyflwr iechyd meddwl
- Sut i adnabod a rheoli straen
- Sut i adnabod ystod o gyflyrau iechyd meddwl -
Dull Asesu
Asesir y cymhwyster trwy drafodaeth broffesiynol gyda'r Hyfforddwr/Aseswr a cheir tystiolaeth ohono gan alwad fideo wedi'i recordio.
Lleoliad
Lleoliadau ar draws Cymru neu’n fewnol yn lleoliad eich busnes
Course length
1D
Fee
£0 – funding available, subject to eligibility