Crynodeb o’r cwrs
Mae materion iechyd meddwl yn y gweithle yn bodoli ac yn effeithio ar bob unigolyn. Bellach, yn fwy nag erioed, anogir busnesau i berchnogi lles gweithwyr a gallwn eich helpu i gyflawni hyn.
Mae’r cwrs hwn yn cwmpasu cynnwys Ymwybyddiaeth Lefel 1 FAA ar gyfer Cymorth Cyntaf ar gyfer Iechyd Meddwl ac yn ehangu ar effeithiau cyffuriau ac alcohol, yn ymgorffori’r Cynllun Gweithredu Cymorth Cyntaf ar gyfer Iechyd Meddwl ac yn ymdrin â ffyrdd y gellir cefnogi diwylliant iechyd meddwl cadarnhaol o fewn gweithle.
Beth yw Cymorth Cyntaf ar gyfer Iechyd Meddwl?
– Nodi cyflyrau iechyd meddwl
– Rhoi cyngor a dechrau sgwrs
– Straen
– Cyflyrau iechyd meddwl
– Cyffuriau ac alcohol
– Cynllun gweithredu Cymorth Cyntaf ar gyfer Iechyd Meddwl
– Cymorth Cyntaf ar gyfer Iechyd Meddwl yn y gweithle
-
Gofynion Mynediad
Mae'r cymhwyster hwn ar gael i ddysgwyr 18 oed neu'n hyn. Rhaid bod gan ddysgwyr y sgiliau llythrennedd i allu darllen a hunanddysgu'r llawlyfr cyfeirio ac adnoddau ychwanegol.
-
Crynodeb o'r canlyniadau
Mae'r cwrs hwn yn addas ar gyfer y rhai sydd am ennill ymwybyddiaeth ddyfnach o gymorth cyntaf iechyd meddwl yn y gweithle.
-
Modiwlau’r cwrs
Mae'r cwrs hwn yn £75 y pen. Mae cyllid ar gael ar gyfer y cwrs hwn, cysylltwch â ni i ddarganfod mwy
-
Dull Asesu
Asesir y cymhwyster trwy drafodaeth broffesiynol gyda'r Hyfforddwr / Asesydd a gwelir tystiolaeth o alwad fideo wedi'i recordio.
Lleoliad
Lleoliadau ar draws Cymru neu’n fewnol yn lleoliad eich busnes
Course length
1D