Peirianneg HNC (Rhan-amser)

Crynodeb o’r cwrs

Mae gan y cwrs hwn dri opsiwn gwahanol y gallwch ddewis canolbwyntio’ch astudiaethau arnynt:
Peirianneg Electronig a Thrydanol:
Bydd yr HNC mewn Peirianneg Electronig a Thrydanol yn addysgu egwyddorion peirianneg craidd i chi ac fe’i dyfeisiwyd i wella a llenwi’r bylchau sgiliau ar gyfer technegwyr proffesiynol uwch neu gyflogeion sy’n dymuno gwella’u sgiliau.

Peirianneg Gyffredinol:
Mae’r HNC mewn Peirianneg Gyffredinol yn cynnig cyfle i chi astudio disgyblaeth peirianneg ar lefel dechnegol, ac o ganlyniad roi cymhwyster i chi sy’n adlewyrchu’ch gwybodaeth ddamcaniaethol ac ymarferol ar lefel 4. Mae peirianwyr gweithgynhyrchu yn helpu i ddylunio’r ffyrdd mwyaf effeithlon o gynhyrchu nwyddau ar draws ystod enfawr o ddiwydiannau, o fwyd i blastig a deunyddiau fferyllol. Gallech hefyd weithio ym maes cyfleustodau neu hyd yn oed y lluoedd arfog.

Peirianneg Fecanyddol:
Mae’r HNC mewn Peirianneg Fecanyddol yn ymwneud yn benodol â dylunio, datblygu, gosod, gweithredu a chynnal a chadw bron unrhyw beth sydd â rhannau symudol. O ganlyniad, mae cyfleoedd gwaith i beirianwyr mecanyddol ym mron pob maes gwaith. Ymhlith y diwydiannau lle mae pobl yn gweithio mae awyrofod, amddiffyn ac ynni yn ogystal â chynhyrchu cynhyrchion diwydiannol a domestig, cyffuriau, dodrefn a bwydydd.

  • Gofynion Mynediad

    Mae'r meini prawf mynediad yn rhoi manylion cynnig nodweddiadol ond mae'r coleg yn ystyried pob cais yn unigol sy'n golygu y gallem wneud cynnig yn seiliedig ar gymwysterau, proffil personol a phrofiad; os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch eich cynnig cysylltwch â'n Tîm Derbyniadau.

    Cynnig Nodweddiadol: 2 Safon Uwch neu ddiploma mewn Peirianneg a phum TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Saesneg a Mathemateg (neu gymwysterau cyfatebol).

  • Crynodeb o'r canlyniadau

    Mae'r llwybr dilyniant cydnabyddedig ar gyfer y rhaglen hon i mewn i ail flwyddyn y rhaglen HND, sydd hefyd yn cynnig yr un tri opsiwn â ffocws.

    Mae peirianwyr electronig a thrydanol yn gyflogadwy iawn a gallant ddod o hyd i waith mewn llawer o ddiwydiannau, gan gynnwys electroneg, modurol, TG, telathrebu, gweithgynhyrchu, pwer, trafnidiaeth, cyfleustodau ac adeiladu.

    Mae gan raddedigion Peirianneg Gyffredinol ragolygon cyflogaeth gyda chwmnïau sy'n ymwneud â rheolaeth dechnegol, cynnal a chadw a datblygu llinellau cynhyrchu newydd a chyfredol. Mae peirianwyr gweithgynhyrchu yn cael eu cyflogi gan gwmnïau cynhyrchu a phrosesu fel gweithgynhyrchwyr bwyd, diod, plastigau, deunyddiau fferyllol a cheir.

    Mae gan raddedigion Peirianneg Fecanyddol ragolygon cyflogaeth mewn peirianneg fecanyddol, er enghraifft: peirianneg dylunio, peirianneg dylunio a datblygu, peirianneg ymchwil, dylunwyr cysyniadau a pheirianwyr mecanyddol.

  • Modiwlau’r cwrs

    Bydd y tri llwybr yn astudio'r modiwlau canlynol:
    - Dylunio Peirianneg
    - Mathemateg Peirianneg
    - Dylunio Peirianneg
    - Rheoli Prosiect Peirianneg Proffesiynol

    Mae'r modiwlau canlynol yn benodol i'r llwybrau rydych chi'n eu dewis:
    Peirianneg Electronig a Thrydanol:
    - Egwyddorion Electronig a Thrydanol

    Peirianneg Gyffredinol:
    - Peirianneg Cynnal a Chadw

    Peirianneg Fecanyddol:
    - Egwyddorion Mecanyddol
    - Hanfodion Thermodynameg a Pheiriannau Gwres.

  • Dull Asesu

    Bydd y rhaglen yn cynnwys darlithoedd, gweithdai ymarferol a sesiynau tiwtorial. Yn dibynnu ar y modiwlau, gall asesu amrywio rhwng aseiniadau, labordai, profion dosbarth ac arholiadau terfynol.

Lleoliad

Lleoliadau ar draws Cymru neu’n fewnol yn lleoliad eich busnes

Course length

2Y

Fee

£0 – funding available, subject to eligibility