Dyfarniad L3 mewn Mesurau Effeithlonrwydd Ynni ar gyfer Adeiladau Hyn a Thraddodiadol (Rhan-Amser)

Crynodeb o’r cwrs

Cynlluniwyd y cwrs hwn i roi gwybodaeth a dealltwriaeth i gynrychiolwyr o’r mesurau effeithlonrwydd ynni sydd ar gael ar gyfer adeiladau hyn a thraddodiadol.

  • Gofynion Mynediad

    Dim

  • Crynodeb o'r canlyniadau

    Bydd cynrychiolwyr llwyddiannus yn cael rhagolygon cyflogaeth uwch yn y sector Ôl-osod yn ogystal â chyfle i symud ymlaen i gwrs Diploma Lefel 5 mewn Cydlynu Ôl-osod a Rheoli Risg.

  • Modiwlau’r cwrs

    Mae'r cwrs hwn yn cwmpasu:
    - Gwerthuso'r Opsiynau ar gyfer Cyflwyno Mesurau Effeithlonrwydd Ynni i Adeiladau Hyn a Thraddodiadol
    - Gwneud Argymhellion a Darparu Cyngor ar Gyflwyno Mesurau Effeithlonrwydd Ynni i Adeiladau Hyn a Thraddodiadol
    - Cydnabod Oedran, Natur a Nodweddion Adeiladau Hyn a Thraddodiadol

  • Dull Asesu

    Asesir y cymhwyster hwn trwy dri arholiad amlddewis, un ar gyfer pob un o'r tair uned.

Lleoliad

Lleoliadau ar draws Cymru neu’n fewnol yn lleoliad eich busnes

Course length

4D

Fee

£0 – funding available, subject to eligibility