Crynodeb o’r cwrs
Mae’r Diploma Lefel 1 mewn Sgiliau Garddwriaethol Ymarferol yn gwrs ymarferol a ddarperir gan Grŵp Colegau NPTC ar gyfer myfyrwyr sy’n dymuno datblygu sgiliau garddwriaeth hanfodol. Bydd myfyrwyr yn ennill profiad ymarferol mewn gofal planhigion, cynnal a chadw gerddi a defnyddio offer a pheiriannau’n ddiogel, gan wella eu cyfleoedd cyflogaeth neu eu gwybodaeth bersonol am arddio.
-
Gofynion Mynediad
Disgwylir i fyfyrwyr feddu ar rywfaint o brofiad blaenorol mewn garddwriaeth. Bydd pob myfyriwr yn cael ei wahodd i gyfweliad cyn ymrestru.
-
Crynodeb o'r canlyniadau
Gall myfyrwyr symud ymlaen i gyflogaeth mewn ystod o lwybrau garddwriaeth a thirlunio. Gall y rhain gynnwys dylunio gerddi, cynnal a chadw gerddi, garddwriaeth amwynder a rolau yn y sector manwerthu. Mae'r cwrs hefyd yn addas i fyfyrwyr sy'n dymuno datblygu eu sgiliau garddio eu hunain ymhellach.
-
Modiwlau’r cwrs
Technegau lluosogi Tocio a chynnal planhigion Defnyddio peiriannau garddwriaeth yn ddiogel Adnabod a gofalu am blanhigion Sgiliau cynnal a chadw gerddi
-
Dull Asesu
Caiff asesu ei wneud drwy arsylwi gwaith ymarferol a chwestiynu i brofi gwybodaeth sylfaenol. Bydd myfyrwyr hefyd yn cwblhau portffolio o dystiolaeth i ddangos eu cyflawniadau trwy gydol y cwrs.
-
Costau Ychwanegol
Bydd angen i fyfyrwyr brynu offer diogelu personol (PPE) fel y cynghorir gan eu tiwtoriaid.
Lleoliad
Lleoliadau ar draws Cymru neu’n fewnol yn lleoliad eich busnes
Course length
Blwyddyn
Fee
£100.00 – funding available, subject to eligibility