TGAU Saesneg Iaith (Rhan-Amser)

Crynodeb o’r cwrs

Mae’r cwrs TGAU Saesneg Iaith yn gwrs rhan amser er mwyn i fyfyrwyr ennill eu cymhwyster TGAU er mwyn cynorthwyo gyda chyflogadwyedd a chael addysg bellach. Dylai’r manylebau TGAU mewn Saesneg Iaith sicrhau bod myfyrwyr yn gallu darllen yn rhugl ac ysgrifennu’n effeithiol. Dylent allu dangos rheolaeth hyderus ar Saesneg Safonol a dylent allu ysgrifennu brawddegau cywir yn ramadegol, defnyddio iaith ffigurol a dadansoddi testunau.

Bydd y cwrs yn rhedeg ar y dyddiadau a’r amseroedd canlynol:

Coleg Castell-nedd
Dydd Llun
6:00pm – 8.30pm

Coleg Afan
Dydd Mawrth
6.00pm – 8.30pm

Coleg Y Drenewydd
Dydd Mawrth
6.00pm – 8.30pm

Coleg Pontardawe
Dydd Mercher
6.00pm – 8.30pm

Coleg Bannau Brycheiniog
Dydd Mercher
6.00pm – 8.30pm

Bydd dosbarthiadau yn cychwyn yr wythnos yn dechrau 11 Medi 2023.

I gofrestru cliciwch ar ‘COFRESTRU NAWR’ ar yr ochr dde o dan y Coleg o’ch dewis.

  • Gofynion Mynediad

    Dim

  • Crynodeb o'r canlyniadau

    Mae llawer iawn o broffesiynau’n gofyn am C mewn TGAU Saesneg fel gofyniad mynediad. I fynd ar gwrs TAR rhaid i chi gael B mewn TGAU Saesneg.

  • Dull Asesu

    Mae’r cwrs TGAU Saesneg Iaith (Cymru) yn cynnwys dwy uned a asesir yn allanol, sy’n cyfrif yr un faint, ac un uned a asesir yn fewnol. Mae’r ddwy uned a asesir yn allanol yn profi sgiliau Darllen ac Ysgrifennu ac mae’r uned a asesir yn fewnol yn profi sgiliau Llafaredd. Nid oes haenau yn y fanyleb.

    Dull Asesu – Asesir drwy ddau arholiad 2 awr a modiwl Llafaredd a asesir yn fewnol a’i gymedroli’n allanol.

Lleoliad

Lleoliadau ar draws Cymru neu’n fewnol yn lleoliad eich busnes

Course length

1Y

Fee

£0 – funding available, subject to eligibility