Lluoswch: Rhifedd – Cymhareb, Graddfa a Gwerth (Rhan Amser: eDdysgu)

Crynodeb o’r cwrs

Bydd y wers hon yn eich helpu i ddeall cymarebau gan ddefnyddio graddfa a chyfrannedd. Bydd hefyd yn eich dysgu sut i bennu gwerth gorau am arian.

Defnyddir testun cymhareb, graddfa a gwerth mewn gweithgareddau dyddiol yn aml heb sylweddoli ei fod yn cael ei ddefnyddio i wneud cyfrifiadau mathemategol. Mae cymarebau, graddfa a gwerth yn digwydd yn aml mewn bywyd bob dydd ac yn helpu i symleiddio llawer o’n rhyngweithiadau trwy roi rhifau mewn persbectif.

Mae’r wers hon yn rhoi dealltwriaeth i ddysgwyr o gymarebau, dealltwriaeth o ddefnyddio graddfa a chyfrannedd a defnyddio cymarebau i gyfrifo’r gwerth gorau am arian. Bydd y dysgwyr yn canolbwyntio ar bynciau allweddol gan ddechrau gyda diffinio beth mae cymhareb, graddfa a gwerth yn ei olygu cyn symud ymlaen at enghreifftiau cymarebau, enghreifftiau o raddfa a chyfrannedd, ac enghreifftiau gwerth. Bydd dysgwyr yn datblygu dealltwriaeth weithredol o gymhareb, graddfa a gwerth ac yn atgyfnerthu ymhellach eu gwybodaeth yn y pwnc gan ddefnyddio cwestiynau gwirio gwybodaeth drwy gydol y wers ac asesiad ar ddiwedd y wers.

  • Gofynion Mynediad

    Dim

  • Crynodeb o'r canlyniadau

    Ar ddiwedd y cwrs byddwch yn cael tystysgrif coleg yn cadarnhau eich bod wedi cyflawni'r modiwl - bydd hefyd yn gwella eich gallu mewn rhifedd ac yn cefnogi datblygu sgiliau ar gyfer byd gwaith.

  • Modiwlau’r cwrs

    Deall cymarebau.
    Defnyddio graddfa a chyfrannedd.
    Defnyddio cymarebau i gyfrifo'r gwerth gorau am arian.

  • Dull Asesu

    Prawf ar-lein

Lleoliad

Lleoliadau ar draws Cymru neu’n fewnol yn lleoliad eich busnes

Course length

1H

Fee

£0 – funding available, subject to eligibility