Crynodeb o’r cwrs
Bydd y cwrs Dyfarniad Lefel 3 hwn mewn Goruchwylio Diogelwch Bwyd yn rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau i’r dysgwr oruchwylio diogelwch bwyd mewn amgylchedd arlwyo, gan sicrhau cydymffurfiaeth â deddfwriaeth bwyd a gweithdrefnau ar gyfer monitro arferion hylendid da mewn ardal cynhyrchu bwyd.
Bydd gan y rhai sy’n cyflawni’r cymhwyster hwn y wybodaeth a’r ddealltwriaeth i gymryd cyfrifoldeb am weithdrefnau monitro diogelwch bwyd, nodi peryglon i ddiogelwch bwyd, cymryd camau priodol os oes unrhyw beryglon a chyfrannu at welliannau mewn arferion diogelwch bwyd.
Mae’r cwrs hwn wedi’i anelu at oruchwylwyr, arweinwyr tîm a rheolwyr llinell sy’n gweithio mewn amgylchedd arlwyo.
-
Gofynion Mynediad
Bydd angen Tystysgrif Diogelwch Bwyd Lefel 2 arnoch gan gorff dyfarnu cydnabyddedig.
-
Crynodeb o'r canlyniadau
Gall y cwrs hwn arwain at swydd yn y diwydiant lletygarwch a/neu symud ymlaen i gwrs uwch, er enghraifft:
-Lefel 4 Rheoli Diogelwch Bwyd -
Modiwlau’r cwrs
Mae’r cwrs hwn yn ymdrin â’r pynciau canlynol:
•Cynllun eiddo ac offer bwyd
•Bacteria a ffactorau risg
•Dulliau rheoli tymheredd a gofynion cyfreithiol
•Rheoli halogiad a chroeshalogi
•Safonau uchel o hylendid personol
•Ymwybyddiaeth o faterion diogelwch bwyd cyfredol
•Glanhau, diheintio, gwaredu gwastraff a rheoli pla
•Gwybodaeth gynyddol am ofynion Dadansoddi Peryglon a Phwyntiau Rheoli Critigol (HACCP).
•Rôl y goruchwyliwr yn y cyfnod sefydlu a hyfforddi staff -
Dull Asesu
Arholiad
Lleoliad
Lleoliadau ar draws Cymru neu’n fewnol yn lleoliad eich busnes
Course length
4D