Crynodeb o’r cwrs
Erbyn diwedd y wers hon byddwch yn gallu cyfrifo’n effeithiol gan ddefnyddio rhifau cyfan, ffracsiynau, degolion a chanrannau ac yn gallu trosi gwerthoedd rhwng pob un o’r rhain.
Ydych chi erioed wedi rhannu bil wrth fwyta mewn bwyty, wedi dilyn rysáit neu wedi talu sylw i gamp yn dadansoddi perfformiad chwaraewr neu dîm penodol? Dyma rai enghreifftiau yn unig o sut mae ffracsiynau yn berthnasol mewn bywyd bob dydd.
Mae’r wers hon yn canolbwyntio ar ddangos i ddysgwyr sut i adio a thynnu ffracsiynau syml a rhifau cymysg, yn ogystal ag arddangos sut i drosi a chyfrifo gyda ffracsiynau. Mae testunau gwersi yn cynnwys posibiliadau amrywiol wrth weithio gyda ffracsiynau megis ffracsiynau cyfwerth, maint ffracsiynau, trosi ffracsiynau i ganrannau a degolion, adio a thynnu ffracsiynau. Gan gyffwrdd â geiriau allweddol fel ffracsiynau, cyfwerth, trosi, adio, tynnu a chanrannau, mae’r wers hon yn ddelfrydol i hybu sgiliau a hyder dysgwyr wrth ddefnyddio mathemateg.
Bydd defnyddio cwestiynau gwirio gwybodaeth trwy gydol y wers a senarios yn seiliedig ar sefyllfaoedd yn y byd go iawn yn gwneud hynny yn union.
-
Gofynion Mynediad
Dim
-
Crynodeb o'r canlyniadau
Mae uwchsgilio yn eich sgiliau rhifedd i lefel 2 yn ofyniad sylfaenol ar gyfer gyrfaoedd yn y dyfodol. Gall hefyd eich arwain at gyrsiau lefel 3 sy'n ymwneud â mathemateg neu fathemateg.
-
Modiwlau’r cwrs
Dysgwch sut i adio a thynnu ffracsiynau syml a rhifau cymysg.
Dysgwch sut i drosi a chyfrifo gyda ffracsiynau. -
Dull Asesu
Prawf ar-lein
Lleoliad
Lleoliadau ar draws Cymru neu’n fewnol yn lleoliad eich busnes
Course length
1H
Fee
£0 – funding available, subject to eligibility