Beth yw’r prosiect Materion Rhifedd?
Mae Grŵp Colegau NPTC wedi lansio ystod o gyrsiau am ddim a ariennir gan y llywodraeth fel rhan o gynllun ehangach Lluosi i helpu cyflogwyr sydd am gael hyfforddiant effeithiol mewn rhifedd ar gyfer eu staff.
Mae Materion Rhifedd yn canolbwyntio ar gefnogi cyflogwyr lleol wrth ddatblygu sgiliau rhifedd eu gweithlu trwy ddefnyddio ystod o ddulliau darparu, yn cynnwys e-ddysgu, hyfforddiant wyneb yn wyneb, sesiynau wyneb yn wyneb yn y gweithle yn ogystal ag ymagweddau hybrid ac o bell.
Yr amcan yw darparu hyfforddiant cynhwysfawr sy’n cwmpasu ymwybyddiaeth ariannol personol a gwella gwybodaeth am gysyniadau ariannol.
Cliciwch yma i ddarllen mwy am y prosiect Lluosi a’i lwybrau eraill
CYRSIAU E-DDYSGU
Mae’r prosiect Materion Rhifedd yn cynnig cyrsiau e-ddysgu sy’n para am awr ac sy’n cwmpasu’r pynciau a ganlyn:
CYRSIAU WYNEB YN WYNEB
Mae’r prosiect Materion Rhifedd yn cynnig y cyrsiau wyneb yn wyneb a ganlyn:
- Taenlenni Sylfaenol
- Dyletswyddau Gweinyddol Ariannol ar gyfer Staff
- Rhifedd Swyddogaethol ar gyfer Staff
- Rheoli Arian Personol
Cronfa Ffyniant Gyffredin
Mae’r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn rhan o agenda Ffyniant llywodraeth y DU ac yn rhan arwyddocaol o’i gymorth ar gyfer llefydd ar draws y DU.
Datblygu Sgiliau Sero Net (Powys)
Mae’r prosiect hwn yn darparu cymorth wedi’i deilwra i gyflogwyr a gywbodaeth mewn perthynas â Datblygu Sgiliau Sero Net.
Inswleiddio Powys
Mae’r prosiect hwn yn anelu at greu capasiti yn yn sector gosodwyr lleol a chreu galw am inswleiddio tai ymhlith adeiladau ym Mhowys.
Gyrfaoedd Tyfu Canolbarth Cymru (Powys)
Mae’r prosiect hwn yn anelu at ddatblygu ap profiad gwaith a allai gael ei ddefnyddio gan gyflogwyr ac academyddion ym Mhowys.