Y Gronfa Ffyniant Gyffredin (SPF)

Beth yw’r Gronfa Ffyniant Gyffredin?

Mae’r Gronfa Ffyniant Gyffredin (UKSPF neu ‘Y Gronfa’) yn golofn ganolog o agenda Ffyniant uchelgeisiol llywodraeth y DU ac yn rhan arwyddocal o’r cymorth sydd ar gael ar gyfer llefydd ar draws y DU. Mae’n darparu £2.6 biliwn o gyllid newydd i’w fuddsoddi’n lleol erbyn mis Mawrth 2025 gyda phob ardal yn y DU yn derbyn dosbarthiad gan y Gronfa trwy fformiwla gyllido yn hytrach na gorfod cystadlu. Bydd yn helpu llefydd ar draws y wlad i ddarparu deilliannau gwell gan adnabod bod hyd yn oed yr ardaloedd mwyaf cyfoethog yn y DU yn cwmpasu pocedi o amddifadedd sydd eisiau cymorth.

Eisiau gwybod mwy?

 

Beth yw’r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn anelu at gyflawni?

Bydd UKSPF yn cefnogi ymrwymiad ehangach llywodraeth y DU i alluogi ffyniant pob ardal o’r DU trwy gyflawni pob un o’r amcanion ffyniant:

  • Hybu cynhyrchiant, cyflog, swyddi a safonau bywyd trwy dyfu’r sector preifat, yn arbennig yn y llefydd lle y gwelir diffyg.
  • Ehangu cyfleoedd a gwella gwasanaethau cyhoeddus, yn arbennig yn y llefydd lle y maent yn wynebu anawsterau
  • Adfer ymdeimlad cymunedol, balchder lleol a pherthyn, yn arbennig yn y llefydd nad yw’r teimladau hyn i’w gweld bellach.
  • Galluogi arweinwyr lleol a chymunedau, yn arbennig yn y llefydd lle y gwelir diffyg arweinyddiaeth leol.

Gweler ein hystod o brosiectau SPF cyfredol isod:

 

Lluosi – Materion Rhifedd

Mae’r prosiect hwn yn canolbwyntio ar gefnogi cyflogwyr lleol wrth ddatblygu sgiliau rhifedd eu gweithlu.

Datblygu Sgiliau Sero Net (Powys)

Mae’r prosiect hwn yn darparu cymorth wedi’i deilwra i gyflogwyr a gywbodaeth mewn perthynas â Datblygu Sgiliau Sero Net.

Inswleiddio Powys

Mae’r prosiect hwn yn anelu at greu capasiti yn yn sector gosodwyr lleol a chreu galw am inswleiddio tai ymhlith adeiladau ym Mhowys.

Gyrfaoedd Tyfu Canolbarth Cymru (Powys)

Mae’r prosiect hwn yn anelu at ddatblygu ap profiad gwaith a allai gael ei ddefnyddio gan gyflogwyr ac academyddion ym Mhowys.