Inswleiddio Powys

Beth yw’r Prosiect Inswleiddio Powys?

Mae’r prosiect Inswleiddio Powys yn anelu at ddarparu hyfforddiant allweddol i’r ardal Powys i ddelio â’r broblem o stoc dai sy’n heneiddio, ynghyd â’r argyfwng ynni sydd ohoni i wella effiethlonrwydd ynni cartrefi ac adeiladau eraill yn yr ardal. Mae’n allweddol bod gwaith inswleiddio yn cael ei gyflawni’n gywir ac yn cydymffurfio â safonau ansawdd sy’n amddiffyn perchnogion tai ac sy’n addas i’r pwrpas.

Eisiau gwybod mwy?

Amcanion y Prosiect

  • Gwella capasiti o fewn i’r sector gosodwyr lleol a chreu galw am inswleiddio tai mewn adeiladau ym Mhowys.
  • Cefnogi hyfforddiant i osodwyr a machnata’r sector ôl-ffitio domestig i hybu’r galw.
  • Tyfu ac integreiddio’r sector inswleiddio a leolir ym Mhowys, gan greu swyddi gwyrdd i weithwyr medrus sy’n talu’n uchel ac yn bodloni her tai sero net.
  • Gwella’r nifer o osodwyr a leolir ym Mhowys a restrir yn y gronfa ddata Trustmark.

 

Cronfa Ffyniant Gyffredin

Mae’r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn rhan o agenda Ffyniant llywodraeth y DU ac yn rhan arwyddocaol o’i gymorth ar gyfer llefydd ar draws y DU.

Lluosi – Materion Rhifedd

Mae’r prosiect hwn yn canolbwyntio ar gefnogi cyflogwyr lleol wrth ddatblygu sgiliau rhifedd eu gweithlu.

Datblygu Sgiliau Sero Net (Powys)

Mae’r prosiect hwn yn darparu cymorth wedi’i deilwra i gyflogwyr a gywbodaeth mewn perthynas â Datblygu Sgiliau Sero Net.

Gyrfaoedd Tyfu Canolbarth Cymru (Powys)

Mae’r prosiect hwn yn anelu at ddatblygu ap profiad gwaith a allai gael ei ddefnyddio gan gyflogwyr ac academyddion ym Mhowys.