Os ydych yn chwilio am hobi newydd, ennill sgiliau i symud ymlaen yn y gweithle neu eisiau cymwysterau i gychwyn ar yrfa newydd, mae ystod eang o gyrsiau byr, rhan-amser a phroffesiynol ar gael yng Ngrŵp Colegau NPTC.
Gall ddysgu rhan-amser wella’ch rhagolygon gyrfa neu rhoi hwb i yrfa newydd sbon mewn nifer o sectorau, yn arbennig y rheiny lle y mae diffyg sgiliau. Bydd modd i chi gael gafael ar y sgiliau a’r cymwysterau newydd sydd eu heisiau gan gyflogwyr lleol i’ch helpu i symud ymlaen neu newid eich gyrfa yn gyfangwbl.
Cyrsiau e-ddysgu
Yn ogystal â’r cyrsiau isod, mae gennym ystod eang o gyrsiau e-ddysgu ar gael y gellir eu dilyn ar eich cyflymder eich hun dan eich cyfarwyddyd eich hun fel y gallwch ddysgu pryd bynnag y bo’n gyfleus i chi. Dysgwch fwy trwy glicio ar y botwm isod.