Mae cydweithredu a gweithio ochr yn ochr â busnesau eraill yn hanfodol i gyrraedd Sero Net. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth ag amrywiaeth o fusnesau, Arbenigwyr Diwydiant, a Chymdeithasau Masnach Uchel eu Parch.
ARPAS-UK
Mae Association of Remotely Piloted Aircraft Systems UK (ARPAS-UK) yn Gymdeithas Fasnach Nid-er-Elw. Nhw yw Llais Cyfunol diwydiant dronau’r DU. Eu hamcan ar y cyd yw cyflawni manteision defnyddio dronau ar gyfer economi’r DU a’r gymdeithas ehangach.
Ewch i’w gwefan: Dolen
BAFSA
British Automatic Fire Sprinkler Association (BAFSA) yw prif gymdeithas fasnach broffesiynol y DU ar gyfer y diwydiant chwistrellau tân.
Mae aelodau BAFSA yn gosod mwy nag 85% o’r gosodiadau chwistrellu a niwl dŵr yn y DU ac yn cynnwys mwyafrif sylweddol o osodwyr chwistrellu ardystiedig trydydd parti yn ogystal â gweithgynhyrchwyr; cyflenwyr; contractwyr; yswirwyr; y gwasanaethau tân ac achub ac eraill sydd â diddordeb yn y maes.
Ewch i’w gwefan: Dolen
BESA
Corff masnach a sefydliad aelodaeth yw BESA sy’n darparu ystod eang o wasanaethau cymorth o gyrsiau hyfforddi a chyngor i rannu arfer gorau a chyfleoedd i rwydweithio a dod o hyd i fusnes newydd.
Ewch i’w gwefan: Dolen
COLEG Y MYNYDD DU
Mae Coleg y Mynydd Du (CMD) yn goleg newydd sbon ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yng Nghymru, a’i nod yw creu dyfodol lle mae natur a phobl yn ffynnu. Mae CMD yn canolbwyntio ar yr her o sut i adeiladu cymdeithas deg a chyfiawn o fewn ffiniau planedol diogel.
Ewch i’w gwefan: Dolen
BPEC
Mae BPEC yn ddarparwr arbenigol o gymwysterau, asesiadau, cyrsiau hyfforddi a deunyddiau dysgu a gydnabyddir gan y diwydiant. Maent yn arweinydd ym maes datblygu sgiliau, gan ddarparu gwasanaethau i golegau, canolfannau hyfforddi preifat, cyflogwyr a dysgwyr ar draws y sectorau plymio, gwresogi, nwy ac ynni ehangach.
Ewch i’w gwefan: Dolen
BWF
Ffederasiwn Gwaith Coed Prydain (BWF) yw’r gymdeithas fasnach ar gyfer y diwydiant gweithgynhyrchu gwaith coed ac asiedydd yn y DU. Mae ganddynt dros 500 o aelodau sy’n cynnwys gweithgynhyrchwyr, dosbarthwyr a gosodwyr drysau, ffenestri, ystafelloedd gwydr, grisiau, dodrefn pren, pob math o waith saer mewnol a phensaernïol pwrpasol yn ogystal â chyflenwyr i’r diwydiant. Mae’r sector gwaith coed yn ei gyfanrwydd yn ddiwydiant gwerth £3.8 biliwn sy’n gweithredu wrth galon gweithgynhyrchu’r DU.
Ewch i’w gwefan: Dolen
CHIC
Mae CHIC yn gonsortiwm cydweithredol, nid-er-elw, sy’n eiddo i’r aelodau ac sy’n cael ei lywodraethu ganddynt, yn darparu atebion caffael cydymffurfiol a chymorth masnachol i’w haelodau mewn partneriaeth â’r gadwyn gyflenwi. Maent yn sicrhau arbedion i’w haelodau ac wedi’u hymrwymo i sicrhau canlyniadau amgylcheddol gwell a gwerth cymdeithasol ychwanegol drwy bopeth a wnânt. Mae eu helusen gofrestredig CHIP yn sicrhau bod difidendau gwerth cymdeithasol yn cael eu darparu o ganlyniad uniongyrchol i weithgareddau caffael CHIC.
Ewch i’w gwefan: Dolen
Core Learning
Mae Core Learning wedi bod ar flaen y gad o ran darparu eDdysgu ers dros 15 mlynedd. Maent yn darparu un pwynt mynediad i dros 2000 o gyrsiau gan 50 o gyhoeddwyr blaenllaw. Maent yn cyfuno’r ehangder a dyfnder hwn o gynnwys ag opsiynau prynu hyblyg i ddiwallu anghenion amrywiol prynwyr e-ddysgu.
Ewch i’w gwefan: Dolen
Creative Difference Training
Mae Creative Difference Training yn gwmni datblygu a dysgu sefydliadol sy’n cynnig amrywiaeth gynhwysfawr o weithdai hyfforddi a gweithgareddau datblygu sy’n canolbwyntio ar Welliant Parhaus, Six Sigma, a chyfleoedd datblygu Arweinyddiaeth a Rheolaeth.
Ewch i’w gwefan: Dolen
E-Careers
Mae E-Careers yn sefydliad EdTech sy’n darparu cyrsiau a gydnabyddir gan y diwydiant ac atebion uwchsgilio i unigolion a sefydliadau.
Ewch i’w gwefan: Dolen
ECITB
Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Peirianneg Adeiladu (ECITB) yw’r corff sgiliau, safonau a chymwysterau a arweinir gan gyflogwyr ar gyfer datblygu gweithlu peirianneg adeiladwaith Prydain Fawr. Yn gorff hyd braich o Lywodraeth y DU, mae ECITB yn adrodd i’r Adran Addysg.
Ewch i’w gwefan: Dolen
Elmhurst Energy
Elmhurst yw darparwr annibynnol mwyaf y DU o ran asesu ynni, ôl-osod a hyfforddiant proffesiynol eiddo, meddalwedd ac achredu.
Ewch i’w gwefan: Dolen
Y FIS
FIS yw’r corff cynrychioliadol nid-er-elw ar gyfer y sector gorffeniadau a rhannau mewnol adeiladau gwerth £10 biliwn yn y DU. Mae’r sefydliad yn bodoli i gefnogi eu haelodau, gwella diogelwch, lleihau risg, gwella cynhyrchiant a sbarduno arloesedd yn y sector.
Ewch i’w gwefan: Dolen
TYFU CANOLBARTH CYMRU
Mae Tyfu Canolbarth Cymru’n bartneriaeth ranbarthol a threfniant ymgysylltu rhwng y sectorau preifat a chyhoeddus, a gyda Llywodraeth Cymru. Nod y bartneriaeth yw cynrychioli buddiannau’r rhanbarth a blaenoriaethau ar gyfer gwelliannau i’r economi leol.
Ewch i’w gwefan: Dolen
CARTREFI FEL GORSAFOEDD PŴER
Nod y prosiect Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer yw profi’r cysyniad yn y sector cyhoeddus ar raddfa gymharol fach gyda’r bwriad wedyn o gynyddu gweithgarwch mewn sectorau eraill ar draws Dinas-Ranbarth Bae Abertawe.
Ewch i’w gwefan: Dolen
Installation Assurance Authority
Installation Assurance Authority (IAA) yw’r awdurdod technegol a’r corff diwydiant sy’n darparu fframwaith sicrhau ansawdd o dan un llwyfan gydymffurfiaeth. Mae eu fframwaith yn rhoi’r hyder i berchnogion tai, rhanddeiliaid allweddol a chyllidwyr bod gwaith inswleiddio’n cael ei wneud at y safonau uchaf ac yn amodol ar lefel o drylwyredd a gwyliadwriaeth sy’n helpu sicrhau y caiff ei wneud ‘Yn Gywir y Tro Cyntaf’.
Ewch i’w gwefan: Dolen
MCS
Gan weithio gyda diwydiant, mae MCS yn diffinio, yn cynnal ac yn gwella ansawdd trwy ardystio technolegau a chontractwyr ynni carbon isel – gan gynnwys pympiau gwres, solar, biomas, gwynt a batris storio. Nod MCS yw datgarboneiddio gwres a phŵer yng nghartrefi’r DU drwy roi hyder mewn ynni a gynhyrchir gartref.
Ewch i’w gwefan: Dolen
MOBIE
Mae MOBIE yn hyrwyddo pwysigrwydd Cartrefi, Addysg, Arloesedd ac Ysbrydoliaeth i sbarduno eu huchelgais am safonau byw gwell.
Ewch i’w gwefan: Dolen
CYNGOR BWRDEISTREF SIROL CASTELL-NEDD PORT TALBOT
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn cynnwys mwy na 6,500 o bobl gan gynnwys 64 o gynghorwyr sy’n cynrychioli 42 o wardiau, oll yn cydweithio i wasanaethu pobl, cymunedau a busnesau Castell-nedd Port Talbot.
Ewch i’w gwefan: Dolen
Net Ret Group LTD
Mae NetRet Group yn darparu’r hyfforddiant, yr ardystiad a’r cymorth sydd eu hangen ar y sector tai, contractwyr, unigolion, a gweithwyr hunan-gyflogedig ar draws y DU i wneud gwaith arbed ynni ar gartrefi.
Ewch i’w gwefan: Dolen
Offsite Alliance
Sefydliad deinamig ac arloesol yw Offsite Alliance sydd ar flaen y gad o ran hyrwyddo a datblygu’r diwydiant adeiladwaith. Gyda chenhadaeth i sbarduno arferion adeiladu cynaliadwy ac effeithlon, mae Offsite Alliance yn dod â grŵp amrywiol o weithwyr proffesiynol y diwydiant, rhanddeiliaid ac arweinwyr meddwl at ei gilydd i gyflymu mabwysiadu a thwf dulliau adeiladwaith oddi ar y safle.
Maent yn llwyfan gydweithredol sy’n hwyluso rhannu gwybodaeth, yn meithrin partneriaethau diwydiant, ac yn eiriol dros ddiwygiadau polisi i oresgyn rhwystrau a chynyddu’r potensial i sbarduno sector adeiladu mwy cynaliadwy, tryloyw a chydnerth.
Trwy drosoli arbenigedd cyfunol eu haelodau, eu nod yw chwyldroi’r ffordd y maent yn meddwl, yn caffael, yn dylunio, yn darparu ac yn cynnal a chadw eu hadeiladau.
Ewch i’w gwefan: Dolen
CYNGOR SIR POWYS
Cyngor Sir Powys (CSP) yw awdurdod lleol Powys, un o ardaloedd gweinyddol Cymru. Mae CSP yn darparu cannoedd o wasanaethau i bron i 60,000 o gartrefi, oll â’r nod o wasanaethu pobl, cymunedau a busnesau Sir Powys.
Ewch i’w gwefan: Dolen
Robert Price
Robert Price yw masnachwyr adeiladu annibynnol mwyaf De-ddwyrain Cymru. Mae’n fusnes teuluol lleol gyda 28 o ganghennau yn y grŵp.
Ewch i’w gwefan: Dolen
RWE
Mae RWE yn bartner uchel ei barch sy’n cynhyrchu trydan, yn adeiladau systemau storio ac yn masnachu ynni. Mae’n un o brif gyflenwyr ynni adnewyddadwy ledled y byd, gyda ffermydd gwynt, trydan solar, a chyfleusterau batris storio mewn llawer o wledydd.
Ewch i’w gwefan: Dolen
Solar Energy UK
Mae Solar Energy UK yn cynrychioli dros 350 o aelod-gwmnïau sy’n gweithredu yn sector ynni’r DU a thu hwnt. Mae synergeddau eithriadol Solar Energy â storio ynni, cerbydau trydan a gridiau clyfar yn golygu bod y diwydiant yn gweithio ar y rheng flaen o ran technoleg a newid systemau i gyflawni allyriadau carbon sero net.
Ewch i’w gwefan: Dolen
Supply Chain Sustainability School
Mae Supply Chain Sustainability School yn gydweithrediad arobryn ar draws y diwydiant sy’n darparu mynediad at hyfforddiant mewn cyfoeth o wahanol feysydd gan gynnwys: Cynaladwyedd, Digidol, FIR, Adeiladwaith Darbodus, Rheolaeth, Oddi ar y Safle, Pobl a Chaffael.
Ewch i’w gwefan: Dolen
Trustmark
TrustMark yw’r unig Gynllun Ansawdd a Gymeradwyir gan Lywodraeth y DU ar gyfer gwelliannau sy’n cael eu gwneud yn y cartref ac o’i amgylch.
Ewch i’w gwefan: Dolen
LLYWODRAETH CYMRU
Llywodraeth Cymru yw llywodraeth ddatganoledig Cymru. Dan arweiniad y Prif Weinidog, mae’n gweithio ar draws meysydd datganoledig sy’n cynnwys rhannau allweddol o fywyd cyhoeddus fel iechyd, addysg a’r amgylchedd.
Ewch i’w gwefan: Dolen
Zero
Mae ZERO yn adeiladu cymuned fyd-eang sy’n codi ymwybyddiaeth, yn rhannu gwybodaeth ac yn grymuso ei haelodau i gyflawni ein gweledigaeth o ddiwydiant adeiladu di-garbon.
Ewch i’w gwefan: Dolen
Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn bartner, cysylltwch â ni drwy glicio isod.