Manylion Cwrs MOBIE

Cwrs
Prosiect 1 – Mehefin 2023 – Chwefror 2024 – Ymgysylltu ag Ysgolion Cynradd (Adeiladu ein Dyfodol)

Mae MOBIE wedi cydweithio â Twinkl, darparwyr adnoddau cynllunio ac addysgu a grëwyd gan athrawon ar gyfer ysgolion cynradd, i greu her STEM ysgol gyfan er mwyn i ysgolion cynradd ysbrydoli pobl ifanc i adeiladu cartrefi’r dyfodol, cartrefi sy’n fwy iach, hapus a charedig i’n planed. Mae’r adnoddau rhad ac am ddim i’w defnyddio yn seiliedig ar Nodau Byd-eang Datblygu Cynaliadwy’r CU ac yn addas ar gyfer 4-11 oed. Maent yn ymdrin â materion fel ynni, dŵr, deunyddiau adeiladu cynaliadwy a natur/mannau gwyrdd. Mae sylfaenydd MOBIE, George Clarke a thri pheiriannydd a phensaer ifanc yn tywys dosbarthiadau trwy bob her ddylunio ac yn rhoi cyngor i ddysgwyr am yr adnoddau dosbarth. Gall MOBIE weithio gydag ysgolion cynradd i gynnal gweithdai byr (1-2 awr) yn seiliedig ar yr ‘heriau bocsys esgidiau’.

Prosiect 2 – Mehefin 2023 – Medi 2023 – Adnoddau ac ymgysylltu ag Ysgolion Uwchradd – Adnoddau Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer – yn gysylltiedig â chwricwla’r Amgylchedd Adeiledig, Dylunio a Thechnoleg a Daearyddiaeth

‘Mae MOBIE yn creu adnoddau addysgu hawdd eu deall ar gyfer ysgolion uwchradd yn seiliedig ar Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer – bydd y deunyddiau’n canolbwyntio ar ddatblygu cynaliadwy a gostwng carbon mewn cartrefi a bydd yn ymdrin â chynaladwyedd, newid yn yr hinsawdd, effeithlonrwydd ynni ac ynni adnewyddadwy, dylunio cartrefi a thai. Byddwn yn cyfeirio at adnoddau defnyddiol sydd eisoes yn bodoli ac yn creu deunyddiau, adnoddau hyfforddi’r hyfforddwr, gwregysau offer athrawon a gweithdai’.

 

Cliciwch yma i gofrestru’ch diddordeb