Ymholiadau Sero Net

Yng Ngrŵp Colegau NPTC rydym yn deall yr heriau y mae cyflogwyr yn eu hwynebu o ran cadw i fyny â chyflymder y newidiadau yn y sector yn enwedig mewn perthynas â chyflawni’r uchelgais Sero Net. Mae’n heriol nodi a phennu’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y presennol a’r dyfodol. Rydym yma i’ch cefnogi chi.

Rydym yn ymfalchïo mewn adeiladu perthynas gyda’n cyflogwyr lleol, ac mae ein cefnogaeth yn cynnwys:

  • Pwynt cyswllt sengl gyda Chynghorydd Ymgysylltu Busnes;
  • Gweithio gyda chi i nodi gofynion datblygu unigol eich sefydliad;
  • Cyflwyno amrywiaeth o opsiynau i’ch cynorthwyo wrth wneud penderfyniadau uwchsgilio’ch gweithlu;
  • Darparu atebion wedi’u teilwra i sicrhau bod eich sefydliad yn derbyn yr hyfforddiant sydd ei angen arno;
  • Dod o hyd i gyllid ar gyfer hyfforddiant.

Bydd ein Hymgynghorwyr Ymgysylltu Busnes ymroddedig yn gweithredu fel sianel rhwng y Coleg a’ch busnes. Gallwn weithio gyda’n gilydd i lunio dyfodol addysg a darparu cyfleoedd cydweithredol a fydd o fudd i chi, i’n myfyrwyr ni, ac i’ch busnes.

Defnyddiwch y ffurflen isod a bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi.

Manylion Personol





Manylion y Sefydliad, os yn berthnasol




Cyfeiriad




Manylion yr ymholiad/Y cyrsiau mae gennych ddiddordeb ynddynt


Cadarnhad

*Bydd yr wybodaeth rydych wedi’i darparu’n cael ei defnyddio ar gyfer NPTC yn unig ac ni chaiff ei rhannu ag unrhyw sefydliadau trydydd parti. Gallwch optio allan unrhyw bryd drwy e-bostio business@nptcgroup.ac.uk