Siarad Cymraeg neu Eisiau Dysgu?

Manteisiwch ar Ddysgu Dwyieithog

Mae’r gallu i siarad ac ysgrifennu yn y Gymraeg a’r Saesneg yn rhoi mantais bwysig i chi pa un a ydych yn chwilio am swydd neu eisiau datblygu’ch gyrfa.

Mae’r gyfraith yng Nghymru yn golygu bod rhaid i wasanaethau cyhoeddus drin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal. Mae hynny’n golygu twf yn y galw am bobl sy’n gallu cyfathrebu’n dda yn y ddwy iaith.

Mae Grŵp Colegau NPTC yn ymrwymedig i hyrwyddo defnydd o’r iaith Gymraeg a diwallu anghenion myfyrwyr sy’n siarad Cymraeg ac aelodau o’r cyhoedd. Mae’n bosibl i fyfyrwyr sy’n siarad Cymraeg gyflawni agweddau o’u cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg gyda chefnogaeth staff arbenigol amser llawn.

Yn ogystal, caiff myfyrwyr nad ydynt yn siarad Cymraeg y cyfle i ennill sgiliau yn yr iaith Gymraeg naill ai o fewn eu rhaglen astudio neu fel rhan o raglen gyfoethogi’r coleg.

Mwy o wybodaeth yma

Rydym yn datblygu darpariaeth ddwyieithog newydd mewn pryd ar gyfer dechrau tymor Medi 2018. Ar gyfer y wybodaeth a chyfleoedd diweddaraf, cysylltwch â  Robin Gwyn, Cyfarwyddwr Dwyieithrwydd, robin.gwyn@nptcgroup.ac.uk, neu Angharad Morgan, Cydlynydd Datblygu Dwyieithog, angharad.morgan@nptcgroup.ac.uk am fwy o wybodaeth.

 

Give Yourself an Edge Through Bilingual Learning

Two languages, twice the skills! Being able to speak and write in both Welsh and English can give you an important advantage – whether you’re looking for a job or wanting to further your career.

Laws in Wales mean that public services must treat Welsh and English on an equal basis. This has meant a rise in demand for people who can communicate well in both languages.

Grwp NPTC Group is committed to promoting the use of the Welsh language and meeting the needs of Welsh speaking students and members of the public. Welsh-speaking students are able to undertake aspects of their course through the medium of Welsh supported by specialist staff.

Non-Welsh speaking students are also given the opportunity to acquire Welsh language skills either within their programme of study or as part of the college’s enrichment programme.

We are developing new bilingual provision in time for the start of the September 2018 term. Please contact Robin Gwyn, Director of Bilingualism, robin.gwyn@nptcgroup.ac.uk , Angharad Morgan, Bilingual Development Coordinator, angharad.morgan@nptcgroup.ac.uk  for more information.