Fel Coleg, rydym yn ymwybodol bod hyd yn oed ar ôl ymchwil hirfaith a nifer o ymweliadau coleg/cyfweliadau, nid yw’r cwrs yr ydych yn ymrestru arno bob amser yr hyn yr oeddech yn ei ddisgwyl.
Rhowch wybod i’ch Cydgysylltwyr Cwrs/Tiwtoriaid Personol ar unwaith os ydych yn teimlo eich bod wedi gwneud y dewis anghywir – byddant yn trafod eich opsiynau a chysylltu â staff i sicrhau bod y broses o bontio i gwrs arall yn un hawdd.
Os ydych wedi dewis newid un o’ch pynciau Safon Uwch yna ceir cyfnod o ddwy wythnos ar ddechrau’r tymor i wneud y newid.
Os ydych wedi penderfynu newid eich pwnc galwedigaethol o ddewis, bydd yn bosibl i chi newid ar yr amod nad yw’r Cwrs yn llawn ac os oes gennych y gofynion mynediad angenrheidiol.
Os ydych yn llwyr heb benderfynu, mae opsiwn gennych i siarad â staff Gyrfa Cymru, a fydd yn eich helpu gyda’ch penderfyniad.
Beth bynnag yr ydych yn ei benderfynu, peidiwch â gwneud y penderfyniad hwnnw ar eich pen eich hun neu deimlo bod yn rhaid i chi roi’r gorau ac ailddechrau blwyddyn nesaf. Mae staff Pontio a Chadw dynodedig ynghyd â Gwasanaethau Myfyrwyr a staff Cymorth Astudio bob amser ar gael i helpu!