PAM DEWIS GRŴP COLEGAU NPTC?
Er bod dod i Grŵp Colegau NPTC yn gam mawr o bosib, byddwn yn gwneud popeth y gallwn i helpu myfyrwyr newydd i ymgartrefu cyn gynted â phosibl.
Dyma rai o’r manteision allweddol o astudio yng Ngrŵp Colegau NPTC:
- Cymorth personol drwy’r Tiwtoriaid Cwrs, Gwasanaethau Myfyrwyr a Chwnselwyr y Coleg
- Cymorth Sgiliau Astudio
- Cyfleusterau chwaraeon gwych
- Ysgoloriaethau ar gael (trwy broses ymgeisio)
- Cynllun Llysgenhadon Myfyrwyr
- Undeb y Myfyrwyr (mae cerdyn disgownt NUS ar gael)
- Mae canolfannau adnoddau dysgu ar flaen y gad – meysydd astudio tawel, cyfrifiaduron gyda mynediad i’r rhyngrwyd ac adnoddau llyfrgell
- Gweithgareddau cyfoethogi – Rydym yn cynnig cyfle i fyfyrwyr amser llawn gymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau, o glybiau chwaraeon a theithiau i weithgareddau diwylliannol a cherddorol
- Bwrsariaethau ar gael ar gyfer cyflawnwyr uchel o ysgolion partner.
CYRSIAU, CYRSIAU, CYRSIAU
Am fod gennymyn ystod helaeth o Gyrsiau Safon Uwch, efallai y bydd angen cymorth arnoch wrth wneud eich penderfyniad terfynol – Dyma rai o’r ffactorau i’w hystyried:
- Cymwysterau presennol
- Arddulliau dysgu
- Ymarferol/damcaniaethol
- Nodau Gyrfa
- Dewis gradd
- Lleoliad /profiad gwaith yn rhan o’r rhaglenni astudio
- Mwynhad o’r pynciau i’w hastudio.
SYSTEM TIWTORIAL Y COLEG
Mae gan bob myfyriwr amser llawn Diwtor Personol neu Gydgysylltydd Cwrs sy’n gyfrifol am sicrhau bod y grŵp o fyfyrwyr yn manteisio i’r eithaf ar eu hastudiaethau yng Ngrŵp Colegau NPTC.
Yn ystod sesiynau tiwtorial wedi’u cynllunio, mae tiwtoriaid a myfyrwyr yn trafod cynnydd, gosod targedau a chreu cynlluniau gweithredu er gwelliant. Mae’r proses hwn yn cynnwys cynhyrchu Cynllun Dysgu Unigol. Mae Cynlluniau Dysgu Unigol yn cwmpasu materion gyrfa ac Addysg Uwch ynghyd â gwahanol agweddau ar addysg bersonol.
Mae tiwtoriaid yn cael eu cefnogi gan Wasanaethau Myfyrwyr, Gyrfa Cymru a Chwnselwyr y Coleg.
NPTC Moodle
Y rhith-amgylchedd dysgu (VLE) yw’r enw a ddefnyddir ar gyfer y feddalwedd Moodle
Mae ar gael drwy Borth y Myfyrwyr ar Wefan y Coleg ar gyfer addysgu, dysgu a chyfathrebu. Defnyddir Moodle Grŵp Colegau NPTC Coleg i gefnogi sesiynau ystafell ddosbarth a gweithdy.
Beth ydy Moddle yn cynnig i Fyfyrwyr?
- mynediad i adnoddau dysgu ar-lein
- mynediad i adnoddau athrawon
- mynediad i ddeunyddiau adolygu
- mynediad i adnoddau a rennir
- mynediad i wersi, gwaith cwrs ac adnoddau gwaith cartref
- Mynediad i’r llyfr gwaith personol a chofnodion cynnydd unrhyw bryd am eu bod ar gael trwy’r Rhyngrwyd.
Sut mae myfyrwyr yn cael gafael arno?
Rhoddir enw defnyddiwr a chyfrinair Moodle y Coleg i bob myfyriwr Grŵp Colegau NPTC. Mae hyn yn galluogi pob myfyrwyr i fewngofnodi i’r adnodd hwn.
OXBRIDGE
Rydym yn annog myfyrwyr i anelu’n uchel ac mae rhai sy’n dyheu i gael lle yn Rydychen neu Gaergrawnt yn derbyn cymorth a chyfarwyddyd gan diwtoriaid Rhydychen a staff uwch y Coleg. Trefnwyd ymweliadau penodol i Oxbridge, gan gynnwys ymweliad dros nos, ar gyfer myfyrwyr sy’n bwriadu gwneud cais, a rhoddwyd cyngor am y proses cais gan Diwtoriaid Derbyn y Prifysgolion.
RHAGLEN RAGORIAETH I FYFYRWYR GALLUOG A THALENTOG (COLEG CASTELL-NEDD)
Mae aelodau Academi Chweched Dosbarth Grŵp Colegau NPTC yn gymwys i wneud cais am y rhaglen ragoriaeth i Fyfyrwyr galluog a thalentog sydd ar gael i fyfyrwyr sydd wedi cyflawni canlyniadau TGAU rhagorol(Graddau A * A graddau yn bennaf). Bydd myfyrwyr sy’n gwneud cais i brifysgolion mwyaf cystadleuol, sef Grŵp Russell, Rhydychen a Caergrawnt n derbyn cymorth personol drwy ein Rhaglen ragoriaeth. Mae gwneud cais i brifysgolion cystadleuol yn golygu mwy na graddau rhagorol. Rhaid i chi wneud dewis gwybyddus ynghylch y pwnc yr ydych am ei astudio, deall y broses a gweithdrefnau dethol cystadleuol, cyflwyno cais o safon uchel a rhagori mewn cyfweliadau.
Os oes gennych broffil TGAU sy’n cynnwys graddau A * ac A yn bennaf, caiff eich gosod mewn grŵp tiwtorial penodol a fydd yn diwallu’ch anghenion a’ch uchelgeisiau. Y nod yw ehangu eich gorwelion y tu hwnt i’ch dewis pwnc i hyrwyddo rhesymu dadansoddol a thrafodaeth. Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch cyn ymrestru, cysylltwch â Dirprwy Bennaeth y Chweched Dosbarth ar 01639 648453/648320.
Llu Cadetiaid Cyfun (CCF)
Mae cynilion CCF yn cynnig ystod eang o weithgareddau heriol, cyffrous, anturus ac addysgiadol i bobl ifanc. Y nod yw datblygu sgiliau mewn cyfrifoldeb personol, arweinyddiaeth a hunan-ddisgyblaeth. Mae’r CCF yn bartneriaeth addysgol rhwng y Coleg a’r Weinyddiaeth Amddiffyn, a gall CCF gynnwys adrannau’r Royal Navy, Royal Marines, a’r Fyddin neu’r Llu Awyr Brenhinol.
Bydd myfyrwyr o bob rhan o’r Coleg yn gallu gwirfoddoli i ymuno â’r CCF waeth pa gwrs maen nhw’n ei astudio. Fel arfer, byddent yn mynychu sesiynau CCF ar brynhawn Mercher yn Academi Chwaraeon Llandarcy, yn ogystal â gwersylloedd penwythnos a gwersyll haf am o leiaf wythnos yn ystod y flwyddyn academaidd. Ychydig iawn o gost sydd ar gael i fyfyrwyr.
Bydd myfyrwyr yn dilyn maes llafur y CCF sy’n cynnwys pynciau megis darllen mapiau, sgiliau craidd milwrol megis trin a saethu arfau, drilio troed (marcio) a sgiliau cyflwyno personol, ymgysylltu â’r gymuned (Sul y Cofio) a gweithgareddau awyr agored megis cyfeiriannu, caiacio, mynydd beicio a llawer mwy.
Yn ogystal â’u cwrs astudio yn y Coleg, mae’r CCF yn anelu at greu pobl ifanc sydd wedi’u llunio’n dda sy’n llawn cymhelliant ac yn barod ar gyfer byd gwaith a gofynion pob math o gyflogwyr.
GWEITHGAREDDAU CYFLWYNO
Credwn y dylai pob myfyriwr gael cyfle i gynnwys gweithgareddau cyfoethogi yn eu rhaglen astudio i ddysgu sgiliau newydd, ehangu profiad a chwrdd â phobl newydd. Efallai yr hoffech chi gychwyn clwb nad yw wedi’i restru yma. Cysylltwch â ni a byddwn yn eich helpu i’w roi ar waith!
Cysylltwch: student-union@nptcgroup.ac.uk
Dyma rai o’r gweithgareddau sy’n cael eu cynnig ar hyn o bryd.
UNDEB MYFYRWYR
Mae’r Undeb Myfyrwyr yn cael ei redeg gan y myfyrwyr, ar gyfer y myfyrwyr. Eu rôl yw sicrhau bod lleisiau myfyrwyr yn cael eu clywed ar lefel uwch reolwyr, gwrando ar fyfyrwyr o bob rhan o’r colegau, cynnal digwyddiadau ac ymgyrchoedd trwy gydol y flwyddyn, eich helpu i gwrdd â phobl newydd, a chreu cymuned myfyrwyr gynhwysol a chyfeillgar.
DATBLYGIAD PERSONOL
Mae cyfoethogi datblygiad personol yn caniatáu ichi wella’ch sgiliau mewn pwnc academaidd, neu ddatblygu sgiliau newydd mewn maes sydd o ddiddordeb i chi ac yn cynnwys y canlynol:
- Gwobr Dug Caeredin
- Llu Cadetiaid Cyfun (CCF)
- Cymdeithas LGBTQ
- Menter a Chyflogadwyedd
- Llysgenhadon STEM
- Llysgenhadon myfyrwyr
- Rhaglen Rhagoriaeth Dawnus a Thalentog (GATE)
- Undeb y Myfyrwyr