CLICIWCH YMA A DDYDDIADAU’R TYMHORAU
ABSENOLDEB MYFYRWYR
Os ydych yn sâl ac heb allu dod i’r coleg bydd angen ichi ffonio’r Llinell Absenoldeb ar 01639 648640 erbyn 9.30yb ar bob dydd eich bod yn absennol.
Ar gyfer absenoldebau o 6 diwrnod coleg yn olynol neu fwy, bydd angen tystysgrif feddygol gan eich meddyg. Dylid cyflwyno hwn i’w Tiwtor Cwrs ar ôl dychwelyd i’r coleg. Bydd angen i chi gwrdd â’ch Tiwtor Cwrs pan ddychwelwch i sicrhau eich bod yn cael y gwaith yr ydych wedi’i golli yn ystod eich absenoldeb.
Sylwch nad yw absenoldebau undydd rheolaidd yn dderbyniol ac y cânt eu herio. Byddant hefyd yn effeithio ar daliadau LCA a WGLG. NI ddylai myfyrwyr drefnu apwyntiadau meddyg / deintydd arferol na gwersi gyrru pan ddylent fod yn mynychu dosbarthiadau ac NI ddylid cymryd gwyliau yn ystod y tymor.
Dim ond un bennod o Absenoldeb Awdurdodedig a ganiateir ym mhob hanner tymor, ac mae hyn yn cynnwys pethau fel profion gyrru, angladdau teulu, ac ati. Mae mwy o fanylion am Absenoldeb Awdurdodedig ac Anawdurdodedig i’w gweld ar system Moodle y myfyrwyr.
DISGYBLU MYFYRWYR
Rydym am i bawb fwynhau eu hamser yn y Coleg ac rydym yn disgwyl ymddygiad da gan ein holl fyfyrwyr, gan gynnwys dangos parch at eraill.
Mae’r Cod Ymddygiad Myfyriwr yn esbonio ein rheoliadau a’n rheolau allweddol.
Dylai myfyrwyr ymgyfarwyddo â’r Polisi hwn sydd ar gael ar Moodle.
Mae gennym Weithdrefn Ddisgyblu Myfyrwyr ffurfiol. Bydd staff yn gwneud myfyrwyr yn ymwybodol o unrhyw faterion o bryder. Fel arfer mae gan fyfyrwyr hawl i fynd drwy bob cam o’r Weithdrefn Ddisgyblu Myfyrwyr (heblaw am droseddau difrifol). Fodd bynnag, efallai y bydd adegau pan mae natur yr ymddygiad yn arwain at rybudd ysgrifenedig neu waharddiad hyd yn oed os mai dyma’r tro cyntaf y mae ymddygiad o’r fath wedi digwydd.
Ceir 4 cam i’r weithdrefn ddisgyblu myfyrwyr fel arfer:
- Rhybudd llafar
- Rhybudd ysgrifenedig
- Cam 3 – Rhybudd Ysgrifenedig Terfynol
- Cam 4 – Camymddwyn Difrifol yn Arwain at Waharddiad
Lle y bo’n briodol, byddwn yn eich cynnwys yn y Broses Ddisgyblu; Bydd hyn fel arfer ynghylch sefyllfaoedd lle y gwelir problemau ymddygiadol sy’n digwydd yn aml a/neu ddigwyddiadau difrifol.
CYFRIFOLDEB Y COLEG I ROI GWYBODAETH I RIENI, GWARCHEIDWAID NEU OFALWYR
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu cysylltiadau agosach gyda rhieni, gwarcheidwaid a gofalwyr myfyrwyr o dan 18 oed a darparu cymaint o wybodaeth â phosibl i chi ar eu cynnydd. Fodd bynnag, ceir rhai cyfyngiadau ar y wybodaeth y gellir ei rhoi i chi oherwydd y Ddeddf Diogelu Data 1998.
Mewn rhai amgylchiadau, er mwyn cydymffurfio â’r Ddeddf Diogelu Data, efallai y bydd angen i ni gael caniatâd gan fyfyrwyr cyn y gallwn ddarparu gwybodaeth amdanynt. Oherwydd cyfyngiadau’r Ddeddf Diogelu Data, ni allwn ddarparu gwybodaeth ichi ar unwaith dros y ffôn.
Byddwn yn cymryd eich manylion a ffonio’n ôl, ar ôl i ni ddilysu ein bod yn gallu rhoi’r wybodaeth yr ydych wedi gofyn amdani i chi.
Ar gyfer myfyrwyr dros 18 oed, nid yw’r gyfraith yn cydnabod unrhyw hawliau gan rieni, gwarcheidwaid neu ofalwyr i gael gwybodaeth am eu plant. Byddai hefyd yn torri Deddf Diogelu Data 1998 os ydym yn anwybyddu dymuniad datganedig gan fyfyriwr i beidio â rhyddhau gwybodaeth. Sut bynnag, hyd yn oed gyda’r cyfyngiadau hyn, byddwn yn parhau i gynnal cysylltiadau agos gyda’ch rhieni/warcheidwaid.
NPTC YSGOLION ACADEMAIDD GRŴP COLEGAU NPTC
Pennaeth Ysgol Arlwyo, Lletygarwch ac Amaethyddiaeth: Sue Lloyd-Jones, 01686 614289
Dirprwy Bennaeth: Paul Pearce
Cyfrifoldeb Fferm: Martin Watkin
Pennaeth Ysgol Trin Gwallt a Therapïau Cymhwysol: Juliana Thomas
Pennaeth Ysgol Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus: Barry Roberts, 01792 648720
Dirprwy Bennaeth: Sali-Ann Millward
Pennaeth Ysgol Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant: Kelly Sherwood, 01639 648360 (Castell-nedd) 01639 648221 (Afan)
Dirprwy Bennaeth: Carol Evans
Pennaeth Ysgol Busnes, Twristiaeth a Rheolaeth: Christine Davies, 01639 648330
Dirprwy Bennaeth: Kathryn Dunston
Pennaeth Ysgol y Celfyddydau Creadigol, Gweledol a Pherfformio: Vicky Burroughs, 01639 648338
Dirprwy Bennaeth: Alex Herriot
Pennaeth Ysgol Astudiaethau Sylfaen a Dysgu Oedolion yn y Gymuned: Julie Mercer, 01639 648350
Dirprwy Bennaeth: Shirley Davies, 01639 648350
Pennaeth Ysgol Peirianneg: Carl James, 01639 648430
Dirprwy Bennaeth: Damian Payne
Pennaeth Ysgol Cyfrifiadura a TG: Eira Williams, 01639 648441
Dirprwy Bennaeth: John Williams
Pennaeth Ysgol Gwasanaethau Peirianneg Adeiladu: Peter Snowball, 01639 648288
Dirprwy Bennaeth: Patrick Hogan, 01639 648424 (Neath) 01639 648208 (Afan)
Pennaeth Academi 6ed Dosbarth: Tessa Jennings, 01639 648453
Dirprwy Bennaeth: Lisa Jenkins 01639 648453 Rachel Kehoe 01639 648320
Pennaeth Ysgol Adeiladwaith, Amgylchedd Adeiledig: Ian Lumsdaine, 01639 648420
Dirprwy Bennaeth: Bryan Shenton, Edward Jones
Pennaeth Hyfforddiant Pathways: Ian Jones, 01639 648370
Dirprwy Bennaeth: Alec Thomas 01686 614266
Rheolwr Campysau’r De: Jane Morgan, 01639 648552
Rheolwr Campyasu Powys: Steve Cass 01686 614223
Dirprwy Reolwr y Coleg: Kevin Morris 01686 614 250
Tîm Cymorth i Fyfyrwyr:
Pennaeth Cymorth i Fyfyrwyr: Mari Shufflebotham 01639 648415
Rheolwr Cynorthwyol Diogelu a Gwydnwch: Mandy Mellor 01639 648033
Rheolwr Cynorthwyol Anghenion Dysgu Ychwanegol (ALN): Natalie Joseph 01639 648074
Rheolwr Cynorthwyol Cyllid a Gweithrediadau Myfyrwyr: Rosemary Denham 01686 614202
Rheolwr Cynorthwyol Lles: Kayleigh Davies 01639 648384