Disgwylir i fyfyrwyr fynychu’r holl sesiynau.
Cewch 1 Absenoldeb awdurdodedig fesul hanner tymor heb i hyn effeithio ar eich LCA (Lwfans Cynhaliaeth Addysg) / CAWG (Cronfa Ariannol Wrth Gefn) / GDLlC (Dysgu Grant Llywodraeth Cymru).
Rhaid darparu tystiolaeth cyn i absenoldeb gael ei ystyried fel absenoldeb awdurdodedig.
Rhaid i chi drefnu Absenoldeb Awdurdodedig ymlaen llaw a darparu’r dystiolaeth angenrheidiol.
Os ydych yn absennol oherwydd salwch, rhaid i chi ffonio bob dydd rhwng 8:00am a 9.30am, ar y llinell absenoldeb: 01639 648640. Os na fyddwch yn ffonio erbyn 9:30 ar bob diwrnod eich salwch, ni chaiff eich LCA ei dalu. Gwnewch yn siŵr bod gennych bob amser gredyd ar eich ffôn symudol neu fod gennych fynediad i linell sefydlog.
Os bydd eich cyfnod o absenoldeb yn para am fwy na 5 diwrnod coleg, bydd angen i chi ddarparu tystysgrif gan y meddyg wrth ddychwelyd.