Yng Ngrŵp Colegau NPTC rydym yn deall yr heriau y mae cyflogwyr yn eu hwynebu o ran cadw i fyny â chyflymder y newidiadau yn y sector yn enwedig mewn perthynas â chyflawni’r uchelgais Sero Net. Mae’n heriol nodi a phennu’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y presennol a’r dyfodol. Rydym yma i’ch cefnogi chi.
Rydym yn ymfalchïo mewn adeiladu perthynas gyda’n cyflogwyr lleol, ac mae ein cefnogaeth yn cynnwys:
- Pwynt cyswllt sengl gyda Chynghorydd Ymgysylltu Busnes;
- Gweithio gyda chi i nodi gofynion datblygu unigol eich sefydliad;
- Cyflwyno amrywiaeth o opsiynau i’ch cynorthwyo wrth wneud penderfyniadau uwchsgilio’ch gweithlu;
- Darparu atebion wedi’u teilwra i sicrhau bod eich sefydliad yn derbyn yr hyfforddiant sydd ei angen arno;
- Dod o hyd i gyllid ar gyfer hyfforddiant.
Bydd ein Hymgynghorwyr Ymgysylltu Busnes ymroddedig yn gweithredu fel sianel rhwng y Coleg a’ch busnes. Gallwn weithio gyda’n gilydd i lunio dyfodol addysg a darparu cyfleoedd cydweithredol a fydd o fudd i chi, i’n myfyrwyr ni, ac i’ch busnes.
Defnyddiwch y ffurflen isod a bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi.