Croeso i
Adeiladu Sero Net yn y Rhanbarth
Prosiect a ariennir gan Sefydliad Elusennol MCS.
Mewn cydweithrediad â:
Beth yw Adeiladu Sero Net yn y Rhanbarth?
Nod y prosiect yw sicrhau bod gan golegau Addysg Bellach (AB) a darparwyr hyfforddiant lleol y cyfleusterau, yr adnoddau, y capasiti hyfforddi, y profiad perthnasol i’r diwydiant a’r offer i bontio i dechnolegau gwres ac ynni carbon isel ac adnewyddadwy, gan bontio’r bwlch rhwng disgwyliadau cymhwysedd y diwydiant a’r cynnig lleol. Mae’r prosiect yn dod â rhwydwaith o ddarparwyr hyfforddiant AB a lleol ynghyd â chyrsiau perthnasol ac yn sefydlu system cymorth, hyfforddiant, cyfnewid â diwydiant a gwelliant ansawdd, wedi’i harwain a’i goruchwylio gan y corff safonau diwydiant MCS.
News: Neath Port Talbot Council Secures £75,000 Grant to Support Skills for Net Zero Housing
Neath Port Talbot Council’s Employability, Skills and Poverty Team have been awarded a grant that will help towards making homes in the county borough become more energy efficient…
Pwy all elwa?
Dysgwyr – bydd y cyrsiau uwch yn sicrhau bod gan y myfyrwyr gymhwyster mwy cadarn a’u bod yn gymwys yn y gwaith ar ôl eu cwblhau. Bydd dilyniant ar gael lle bo angen ac yn darparu mwy o gyfleoedd gwaith.
Busnesau – bydd dysgwyr yn cwblhau cyrsiau ac yn meddu ar y sgiliau parodrwydd am swydd a’r ardystiadau angenrheidiol i’w defnyddio o fewn gofynion newydd sefydliad. Bydd busnesau felly yn fwy gwybodus, yn gynhyrchiol yn yr economi di-garbon / carbon isel, er mwyn meithrin hyder defnyddwyr yn y sector.
Darparwyr hyfforddiant – byddant yn gallu datblygu cyrsiau mwy priodol o’r ansawdd a’r safon angenrheidiol i uwchsgilio dysgwyr.
Staff Colegau AB – bydd ganddynt yr wybodaeth i’w galluogi i roi hyfforddiant effeithiol yn y dulliau adeiladwaith newydd gan fanteisio ar eu profiad o ddiwydiant.
Yn gyffredinol – bydd gweithio mewn partneriaeth yn cael ei wella a bydd dysgwyr yn barod am waith pan fydd y cyrsiau wedi’u cwblhau. Felly bydd yr economi’n elwa o bobl fedrus iawn yn cyfrannu at yr agenda garbon niwtral.
Beth sydd ar gael?
Hyfforddi’r hyfforddwr – uwchsgilio staff darlithio mewn technolegau Sero Net allweddol
Cyrsiau achrededig – wedi’u hariannu’n llawn*
Gweithdai – cyfleoedd DPP
Hyfforddiant blaenllaw y diwydiant – ar y cyd â gweithwyr proffesiynol arbenigol
*Yn amodol ar ddarparu dogfennau ymgeisio.
Cliciwch ar y lluniau isod i ddarganfod mwy am yr hyn sydd ar gael i bob sefydliad:
Cyllid
Nod Tîm Datblygu Busnes Grŵp Colegau NPTC yw helpu pob dysgwr i gyflawni eu huchelgeisiau dysgu. Lle bo’n bosibl, rydym yn dod o hyd i gyllid ar gyfer dysgu i gefnogi’r heriau ariannol y mae busnesau ac unigolion yn eu hwynebu wrth uwchsgilio. Mae ystod eang o gyllid ar gael, a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i’ch helpu a’ch arwain i ddod o hyd i’r hyfforddiant mwyaf cost-effeithiol a, lle bo’n bosibl, wedi’i ariannu’n llawn sydd ar gael.
Ochr yn ochr â’r cyfleoedd ariannu hyn mae’r prosiect Adeiladu Sero Net yn y Rhanbarth yn cefnogi amrywiaeth o gyrsiau sydd ar gael trwy Sefydliad Elusennol MCS.
Os oes gennych ddiddordeb mewn unrhyw un o’r cyrsiau gan unrhyw un o’r darparwyr hyn, a fyddech cystal â llenwi’r ffurflen mynegiad o ddiddordeb isod a bydd y tîm yn cysylltu â chi.
Oes gennych ddiddordeb mewn cael gwybod mwy am Gymwysterau MCS?
Gwnewch ymholiad isod
Os oes gennych ddiddordeb mewn unrhyw un o’r cyrsiau sydd ar gael ac yr hoffech gael rhagor o wybodaeth, llenwch y ffurflen ymholiad isod.