Cwrs |
---|
Carbon a Newid yn yr Hinsawdd (educators/lecturers) (addysgwyr/darlithwyr) 29/11/23, 9:30-12
Gweithdy sy’n rhoi adolygiad o’r wyddoniaeth y tu ôl i newid yn yr hinsawdd ac yn archwilio’r mentrau carbon isel allweddol yn y diwydiant adeiladu. Ochr yn ochr â’r rhain mae’r sesiwn hon hefyd yn adolygu ac yn esbonio’r ffocws y tu ôl i: Sero Net/Gwrthbwyso Carbon/Targedau Seiliedig ar Wyddoniaeth a’r ôl troed Carbon. Bydd pob sesiwn hefyd yn cynnwys paratoi’r hyfforddwyr i addysgu’r gweithdy hwn a chyfeirio at ddysgu pellach am ddim drwy Ysgol y Gadwyn Gyflenwi. |
Dulliau adeiladwaith modern (MMC) (addysgwyr/darlithwyr) 27/02/24, 9:30-12:00
Gweithdy yn amlinellu dulliau adeiladwaith modern a pha ran y gallant ei chwarae yn y cymysgedd adeiladwaith i helpu creu diwydiant carbon isel. Bydd y sesiwn hon yn edrych yn fanwl ar y systemau amrywiol (cyfeintiol ac ati) ac yn dangos y manteision cynaladwyedd a’r defnydd o dechnoleg ddigidol y mae MMC yn elwa ohoni. Bydd pob sesiwn hefyd yn cynnwys paratoi’r hyfforddwyr i addysgu’r gweithdy hwn a chyfeirio at ddysgu pellach am ddim drwy Ysgol y Gadwyn Gyflenwi. |
Ôl-osod (addysgwyr/darlithwyr) 24/01/24, 13:00-15:30
Gweithdy yn amlinellu maint a chwmpas yr her/cyfle ôl-osod a’r gwahanol offer a thechnolegau a ddefnyddir i sicrhau gwelliant a lleihau’r defnydd o garbon. Bydd pob sesiwn hefyd yn cynnwys paratoi’r hyfforddwyr i addysgu’r gweithdy hwn a chyfeirio at ddysgu pellach am ddim drwy Ysgol y Gadwyn Gyflenwi. |
Ynni adnewyddadwy (addysgwyr/darlithwyr) 20/03/24, 13:00-15:30
Gweithdy sy’n amlinellu’r achos dros dechnoleg adnewyddadwy ac yn dangos y technolegau amrywiol sy’n bodoli ac sydd ar y gweill a’r sgiliau sydd eu hangen ar weithlu’r dyfodol. Bydd pob sesiwn hefyd yn cynnwys paratoi’r hyfforddwyr i addysgu’r union weithdy hwn a chyfeirio at ddysgu pellach am ddim drwy Ysgol y Gadwyn Gyflenwi. |
Gweithio yn MCS (addysgwyr/darlithwyr) 24/04/24, 13:00-15:30
Gweithdy sy’n amlinellu safon MCS a’i phwysigrwydd wrth gyflwyno gosodiadau ynni adnewyddadwy o safon uchel naill ai mewn amgylchedd adeiladu o’r newydd neu wedi’i ôl-osod. Bydd yn adolygu safonau’r gosodwr a’r cynnyrch ac yn amlygu sut mae’r safon yn ymwneud â rheoliadau adeiladu ac yn cyfeirio at lwybrau achredu. Bydd pob sesiwn hefyd yn cynnwys paratoi’r hyfforddwyr i addysgu’r gweithdy hwn a chyfeirio at ddysgu pellach am ddim drwy Ysgol y Gadwyn Gyflenwi. |
Carbon a Newid yn yr Hinsawdd (hyrwyddwyr / busnes a rhanddeiliaid) 16/01/24, 9:30-12:00
Gweithdy sy’n rhoi adolygiad o’r wyddoniaeth y tu ôl i newid yn yr hinsawdd ac yn archwilio’r mentrau carbon isel allweddol yn y diwydiant adeiladu. Ochr yn ochr â’r rhain mae’r sesiwn hon hefyd yn adolygu ac yn esbonio’r ffocws y tu ôl i: Sero Net/Gwrthbwyso Carbon/Targedau Seiliedig ar Wyddoniaeth a’r ôl troed Carbon. Bydd y sesiwn hon yn cael ei theilwra i helpu mynychwyr i weld sut mae eu busnes yn cyd-fynd â’r agenda hon. |
Gweithio yn MCS (pencampwyr / busnes a rhanddeiliaid) 14/05/24, 9:30-12:00
Gweithdy sy’n amlinellu safon MCS a’i phwysigrwydd wrth gyflwyno gosodiadau ynni adnewyddadwy o safon uchel naill ai mewn amgylchedd adeiladu o’r newydd neu wedi’i ôl-osod. Bydd yn adolygu safonau’r gosodwr a’r cynnyrch ac yn amlygu sut mae’r safon yn ymwneud â rheoliadau adeiladu ac yn cyfeirio at lwybrau achredu. Bydd y sesiwn hon yn cael ei theilwra i helpu mynychwyr i weld sut mae eu busnes yn cyd-fynd â’r agenda hon. |