Wynebau Ffres i Gymru Dan 20

Fis diwethaf, gwnaethom adrodd ar ein ‘Pedwar Gwych’ a alwyd i garfan Cymru dan 20 ar gyfer Chwe Gwlad 2020. Wrth i’r tîm baratoi i wynebu Ffrainc ym Mae Colwyn heno, mae dau arall o deulu Grŵp Colegau NPTC wedi eu dwyn i mewn i garfan Gareth Williams.

Mae Frankie Jones, y myfyriwr Adeiladwaith, yn dod yn syth i’r pymtheg fydd yn dechrau’r gêm ar yr asgell, tra bod y myfyriwr Chwaraeon Joe Hawkins wedi ei roi ar y fainc. Yn ddim ond dwy ar bymtheg oed, bydd Joe yn dod yn un o’r chwaraewyr ieuengaf i ymddangos dros dîm dan 20 Cymru os yw’n ymuno â’r gêm.

Mae Joe, sydd ar hyn o bryd yn astudio Diploma Estynedig lefel 3 BTEC mewn Chwaraeon (Perfformiad a Rhagoriaeth) yn hanu o Ystalyfera ac mae’n gyn-fyfyriwr Ysgol Gyfun Cwmtawe. Mae wedi chwarae i dîm cyntaf y Coleg ac i dîm dan 18 y Gweilch y tymor hwn. Yr un mor fedrus fel canolwr ac fel maswr, ac yn giciwr golau hyfedr, mae Joe yn hen gyfarwydd ag anrhydeddau rhyngwladol. Bu ar daith o Dde Affrica gyda Chymru Dan 18 yn ystod yr haf y llynedd a chwaraeodd dros Gymru Dan 19 yn ystod eu hymgyrch yn yr hydref.

Joe Hawkins

Dywedodd Joe wrthym: “Rwy’ wrth fy modd yn cael fy newis ar gyfer y garfan. Mae nerfau’n dechrau effeithio arnaf ychydig wrth i’r gêm agosáu ond rwy’n llawn cyffro ac yn gobeithio y caf gyfle i adael y fainc i ddangos beth y gallaf ei wneud.”

Mae Frankie Jones sy’n bedair ar bymtheg mlwydd oed ar hyn o bryd yn astudio ar gyfer HNC mewn Adeiladwaith a’r Amgylchedd Adeiledig, ar ôl cwblhau Diploma Estynedig lefel 3 BTEC mewn Chwaraeon (Perfformiad a Rhagoriaeth) yn Academi Chwaraeon Llandarcy. Yn debyg i Joe, mae eisoes wedi ymddangos dros Gymru ar lefel Dan 18 a Dan 19 a bydd yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf ar lefel Dan 20 heno.

Frankie Jones

Dechreuodd Frankie chwarae i dîm cyntaf y Coleg yn ôl yn 2017 lle yr ymddangosodd ochr yn ochr â’i gyd-aelodau o’r garfan Dan 20 sef Bradley Roderick, Luke Scully a Rhys Thomas. Ar hyn o bryd mae’n chwarae rygbi rhannol-broffesiynol  yn uwch gynghrair Cymru gydag Aberafan.

Dywedodd Marc Breeze, Swyddog Rygbi Ysgolion Grŵp Colegau NPTC: “Mae’n wych gweld cymaint o gyn-fyfyrwyr a myfyrwyr presennol yn rhan o garfan Dan 20 Cymru heno. Daethant i gyd drwy’r rhaglen rygbi yma yng Ngrŵp Colegau NPTC ac yn ogystal â bod yn chwaraewyr rygbi rhagorol, roeddent hefyd yn fyfyrwyr gwych. Mae’n gyflawniad arbennig i’r holl chwaraewyr sydd wedi’u dewis ar gyfer garfan, ond yn enwedig Joe Hawkins, sydd ar hyn o bryd yn ail flwyddyn ei astudiaethau gyda ni. Mae’n dal i fod yn gymwys ar gyfer Dan 18 Cymru eleni ac mae hynny’n dangos y dalent gyffrous sydd ganddo. Gan bob un ohonom yng Ngrŵp Colegau NPTC, pob lwc a mwynhewch yr achlysur.”

Mae Cymru wedi colli i’r Eidal ac Iwerddon yn eu dwy gêm agoriadol, ond mae’r Prif Hyfforddwr Gareth Williams yn credu bod ei dîm wedi dysgu gwersi pwysig ar hyd y ffordd, yn enwedig gan i’w dîm ifanc ragori ar bencampwyr llynedd y Gamp Lawn yn yr ail hanner mewn amodau ofnadwy yng Nghorc yr wythnos diwethaf.

“Fe allech chi weld yn yr ail hanner yn erbyn Iwerddon lle gwnaethon ni roi’r elfen honno o rygbi dwyn pwysau ar waith, a chawsom werth da o hynny – pe gallem fod wedi gwneud hynny ar rai achlysuron eraill yn yr hanner cyntaf byddai’r gêm honno wedi bod yn agos dros ben,” meddai Williams.

“Mae Ffrainc wedi bod ar flaen y gad yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf yn y grŵp oedran hwn – rydym yn edrych ymlaen at ddod â nhw i Fae Colwyn i wynebu’r her o’u chwarae.

“Rydym yn ymwybodol o’r hyn sy’n dod ond rwy’n gobeithio y bydd y siom ar ôl gêm Iwerddon yn gyrru ein bechgyn ymlaen gan y gallai’r gêm honno fod wedi bod yn llawer agosach pe na baem wedi gwneud camgymeriadau yn yr hanner cyntaf. Yn y pen draw rydym am barhau i roi ein hunain yn y sefyllfaoedd hynny.”

Cymru D20 v Ffrainc D20, Stadiwm Zip World, dydd Gwener 21 Chwefror, Y Gic Gyntaf am 7.35pm (yn fyw ar BBC Cymru DAU).