Ffion Jones yn Ennill yng Ngwobrau Addysg Prydain

Mae’r myfyriwr Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ffion Jones  o Goleg y Drenewydd (sy’n rhan o Grŵp Colegau NPTC)  wedi ennill yn y categori galwedigaethol yn y Gwobrau Addysg Prydain o fri, a gynhaliwyd ym Manceinion fis diwethaf.

Ffion yw’r myfyriwr cyntaf o Grŵp Colegau NPTC i ennill yn y gwobrau, sydd bellach yn eu pedwaredd flwyddyn. Daeth 70 o’r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol ynghyd o Loegr, Gogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru ar gyfer y gwobrau, lle gwnaeth y myfyrwyr a’u teuluoedd gymdeithasu ag enwogion, addysgwyr a gwleidyddion yn Nhŵr eiconig Beetham, yn Hilton Manchester Deansgate.

Cyflwynwyd tlws i ugain o enillwyr gan amryw o wleidyddion, gweithwyr addysg proffesiynol blaenllaw ac enwogion o fyd chwaraeon a theledu ac roedd Ffion yn eu plith. Ynghyd â thri arall a gyrhaeddodd y rownd derfynol yn ei chategori, gofynnwyd iddi fynd i’r llwyfan wrth i’r enillydd gael ei gyhoeddi. Dywedodd Ffion, a fynychodd y gwobrau gyda’i darlithydd Sarah Eskins ac aelodau o’i theulu, ei bod wedi “synnu ac wrth ei bodd” ar ôl ennill y wobr bwysig.

Mae Gwobrau Addysg Prydain (BEA) yn cydnabod cyflawniadau academaidd ac allgyrsiol rhagorol myfyrwyr ar draws chwe chategori o wobrau gan gynnwys TGAU neu National 5 yr Alban, Safon Uwch neu Advanced Higher yr Alban, Galwedigaethol, Gradd a Gradd Brentisiaeth.

Mae’r BEA yn nodi ac yn dathlu unigolion sydd wedi rhagori o fewn system addysg Prydain. Wrth wneud hynny, mae’r gwobrau hyn yn cydnabod mai ymdrech a phenderfyniad personol sy’n arwain at lwyddiant. Nid yw cyrhaeddiad addysgol yn bosibl heb ddymuniad ac ymrwymiad pob myfyriwr i wella eu hunain drwy wybodaeth a dysgu.

Enwebwyd Ffion am y wobr i gydnabod ei chanlyniadau academaidd gwych a’i llwyddiant allgyrsiol yn ystod ei hamser yn y coleg. Cyfunodd astudio ar gyfer y BTEC gyda dwy swydd ran-amser yn ogystal â bod yn Hyrwyddwr Cyfeillion Dementia, codi arian i Gymdeithas Alzheimer, a bod yn Arweinydd Cadetiaid yr Heddlu gyda Heddlu Dyfed Powys. Yn ystod ei hamser fel cadet yng Nghanolfan Sant Ioan, y Drenewydd, mae hi wedi ymgymryd â lleoliadau gwaith yng nghartref nyrsio Bethshan ac ysbyty’r Drenewydd. Yn ogystal â hyn, mae hi rywsut wedi dod o hyd i’r amser i gwblhau gwobrau efydd ac arian Dug Caeredin ac ennill Rhagoriaeth Serennog Driphlyg gyda phresenoldeb o 100% yn ei BTEC lefel 3 Diploma Estynedig mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Mae Ffion wedi dangos yn gyson bod ei moeseg waith heb ei hail, ar ôl ennill Gwobr Efydd eisoes ar gyfer Myfyriwr Plant, Iechyd a Gofal Cymdeithasol BTEC y flwyddyn 2019, oedd yn cydnabod ei hymroddiad a’i hymrwymiad rhagorol i’r pwnc.

Dywedodd y Darlithydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Sarah Eskins: “Rhoddodd bleser mawr i mi fynychu’r seremoni gyda Ffion a’i gweld yn cael ei chyhoeddi fel yr enillydd, roeddwn mor falch ohoni. Mae hi’n weithiwr caled ac mae ganddi ddyfodol disglair o’i blaen.”

Ar ôl gadael y coleg, mae Ffion wedi dechrau ar ei thaith i fod yn Swyddog yr Heddlu, gan ennill swydd fel cwnstabl gwirfoddol gyda Heddlu Dyfed Powys.

Gwnaeth Kelly Sherwood, Pennaeth yr Ysgol: Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant longyfarch Ffion ar ei champ ryfeddol: “Roedd Ffion yn fyfyrwraig eithriadol, gan gwblhau’r holl waith i safon uchel iawn tra hefyd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol a chyfleoedd gwirfoddoli. Caniataodd ei gwaith fel Hyrwyddwr Cyfeillion Dementia iddi drosglwyddo ei gwybodaeth i lawer o’n myfyrwyr a’n staff, a chododd ei gweithgareddau codi arian gannoedd o bunnoedd ar gyfer gwahanol elusennau. Mae’n gwbl haeddiannol fel enillydd Gwobr Addysg Prydain ac rydym yn falch iawn o’i chyflawniadau. Dymunwn y gorau iddi ar gyfer ei dyfodol.”