Llongyfarchiadau i Anelwr Uchel – Ffion Jones

Mae Ffion Jones sef myfyriwr mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Ngholeg y Drenewydd yn profi ei bod ymhlith y myfyrwyr mwyaf talentog yn y DU ar ôl cael ei rhoi ar y rhestr fer fel terfynydd yng Ngwobrau Addysg Prydain 2020.

Mae Ffion, a enillodd Wobr Cymdeithas Maldwyn yn ddiweddar wedi cael gwahoddiad i fynychu seremoni Gwobrau Addysg Prydain nos Iau 30 Ionawr 2020 yng Ngwesty Hilton Manchester mewn cydnabyddiaeth o’i chanlyniadau academaidd gwych a’i llwyddiant allgyrsiol ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Mae etheg gwaith Ffion heb ei hail ac enillwyd Gwobr Efydd ganddi eisoes yng Ngwobrau Myfyriwr y Flwyddyn 2019, BTEC Iechyd a Gofal Cymdeithasol, i gydnabod ei hymroddiad a’i hymrwymiad rhagorol i’r pwnc.

Llwyddodd Ffion i gyfuno ei hastudiaethau BTEC â dwy swydd ran-amser, ynghyd  â bod yn hyrwyddwr ar ran Dementia Friends, gan godi arian ar gyfer y Gymdeithas Alzheimer, yn ogystal â bod yn gadet yr heddlu gyda Heddlu Dyfed Powys, Arweinydd Cadetiaid yng Nghanolfan St. Johns Y Drenewydd, a chyflawnodd hefyd leoliadau gwaith yng Nghartref Nyrsio Bethshan yn Y Drenewydd ac yn Ysbyty’r Drenewydd ar yr un pryd â chwblhau Gwobrau Dug Caeredin efydd ac arian a rhywsut llwyddodd i gyflawni 3 seren driphlyg sy’n cyfateb i 3 A* Safon Uwch ynghyd â phresenoldeb o 100%.

Mae Ffion hefyd ar y trywydd iawn i fod yn Swyddog yr Heddlu ar ôl dod yn Gwnstabl Arbennig gyda Heddlu Dyfed Powys yn ddiweddar.

Dywedodd Sarah Eskins, darlithydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Mae Ffion yn llawn haeddu ei lle yng Ngwobrau Addysg Prydain ac rydym i gyd y tu ôl iddi gant y cant.”