Help Llaw i Ysgol Gymdogol

Mae’r myfyrwyr Gwyddor Chwaraeon Iwan Evans a Caine Ballentine Price ill dau wedi bod yn rhoi help llaw i Ysgol Y Bannau.

Mae’r myfyrwyr wedi bod yn mynd i’r ysgol bob wythnos i gyflwyno sesiynau hyfforddi a ffitrwydd. O fewn y sesiynau mae disgyblion yn gallu gweithio ar eu gallu, eu cryfder a’u cyflymder yn ogystal â phrofion ffitrwydd a gynhelir fel meincnodau ar gyfer y plant.

Yn ystod y rhaglen gychwynnol, bu’r myfyrwyr yn gweithio gyda disgyblion Blwyddyn 3 a 4 ac yna symud ymlaen i Flwyddyn 5 a 6 gyda phob grŵp yn cael hyd at 30 munud o ymarfer corff.

Daw’r sesiynau fel rhan o uned profiad gwaith myfyrwyr Coleg Bannau Brycheiniog, sy’n caniatáu i fyfyrwyr arddangos eu sgiliau o fewn y gymuned. Mae cymwysterau fel siarad Cymraeg wedi cael eu defnyddio yn y sesiynau hyn yn ogystal â magu hyder.

Dywed y darlithydd chwaraeon, Rhian Davies: “Mae Iwan a Caine yn oedolion ifanc brwdfrydig iawn, gyda’r ddau yn rhagori yn eu cyrsiau ac yn eu campau unigol, ond mae’r profiad o weithio gydag Ysgol Y Bannau wedi’u helpu i fagu hyder wrth gyfathrebu mewn lleoliad cyfrwng Cymraeg yn ogystal â deall y trefnu a’r paratoi sydd ei angen o fewn hyfforddiant o ansawdd uchel.  Gobeithio y bydd y plant ysgol gynradd yn anelu at fod yn fodelau rôl fel hyn yn y dyfodol.”