Datrys Problemau ar gyfer Papurau Newydd Siarad

Roedd myfyrwyr blwyddyn gyntaf yr Adran Adeiladwaith sy’n astudio Gwaith Saer a Gwaith Asiedydd a Pheintio ac Addurno yn falch iawn o’r cyfle i ymarfer eu sgiliau drwy greu sawl darllenfa ar gyfer yr elusen leol ‘Talking Newspapers’ yn ddiweddar.

Cysylltodd Alison Wilding o Gangen Powys yr elusen â’r Coleg yn y gobaith y byddent yn darparu datrysiad ar gyfer nifer o broblemau yr oedd eu haelodau yn eu hwynebu.

Mae’r mudiad gwirfoddol yn darparu copïau sain o’r County Times a’r Brecon and Radnor Express ar gyfer y rhai sydd â nam ar eu golwg neu sy’n ddall, ond roedd y broses o greu’r copïau sain weithiau’n anodd oherwydd maint y papurau newydd.

Esboniodd y gall hyn ei gwneud hi’n anodd eu darllen at ddiben sain wrth droi’r dalennau. Siaradodd Alison hefyd â’r darlithydd Gwaith Coed, George Stewart, am un fenyw yr oedd hi ond yn gallu defnyddio un fraich ac a oedd hefyd yn teimlo ei bod yn her ymdopi â’r papurau.

Yna, rhoddwyd y gwaith i’r myfyrwyr o ddylunio darllenfa.  Cafodd myfyrwyr o waith coed a gwaith asiedydd a pheintio ac addurno eu dewis i weithio ar y prosiect.

Esboniodd George fod y darllenfeydd wedi bod yn brosiect da i’r myfyrwyr a ddefnyddiasant doriadau coed meddal, wedi’u siapio a’u gosod at ei gilydd gan ddefnyddio sgiliau gwaith coed amrywiol gan gynnwys yr uniad Mortise a Tenon, yr uniad coed lap, yr uniad cyd-blethu ac yna gosod colfachau.

Ychwanegodd, ‘Mae’r myfyrwyr wedi gwneud yn dda iawn ac wedi mwynhau’r gwaith’.

Derbyniodd Steve Lunt ac Alison Wilding o Talking Newspapers y darllenfeydd gan y myfyrwyr Matthew Smith a Kyle Kirkham, ynghyd â David Rimmer, Darlithydd Peintio ac Addurno a George Stewart, Darlithydd Gwaith Coed a Gwaith Asiedydd.

Cysylltodd Alison â’r Coleg yn ddiweddarach i ddweud, ‘Roedden nhw’n ychwanegiad gwych ac roedd y menywod wrth eu bodd â gwaith eich myfyrwyr, diolch i chi gyd am y gwaith caled’.

Llun:

Alison Wilding (Talking Newspapers), David Rimmer (Darlithydd Peintio ac Addurno), Steve Lunt (Talking Newspapers) Matthew Smith a Kyle Kirkham (myfyrwyr), George Stewart (Darlithydd Gwaith Saer a Gwaith Asiedydd)