Dysgwch rywbeth newydd wrth i’r Coleg agor ei ddrysau ar gyfer y Flwyddyn Newydd

Ydych chi’n gadael yr ysgol yr haf hwn ac yn ansicr a ydych am ddewis Safon Uwch, Prentisiaeth neu Gwrs Galwedigaethol, neu a ydych yn dymuno uwchsgilio yn eich swydd bresennol, newid eich gyrfa, neu hyd yn oed ddechrau gradd neu gymhwyster lefel prifysgol?

Os felly, beth am ymuno â ni yn un o’n Nosweithiau Agored fis Ionawr yma rhwng 4:30pm – 7:30pm yn y campysau canlynol:

 

14 Ionawr          Canolfan Adeiladwaith Abertawe (Adeiladwaith)

14 Ionawr          Academi Chwaraeon Llandarcy (Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus)

15 Ionawr          Coleg Pontardawe (Cerbydau Modur a Thrwsio Cyrff Cerbydau Modur)

                          Coleg Afan

                          Coleg Bannau Brycheiniog

16 Ionawr          Coleg Castell-nedd

                          Coleg Y Drenewydd

Bydd ein nosweithiau agored yn caniatáu i ddarpar fyfyrwyr a’u rhieni gael profiad o safleoedd arobryn y Coleg a’i gyfleusterau ardderchog. Ynghyd â hyn, bydd myfyrwyr yn gallu cael rhagor o wybodaeth am yr ystod o gyrsiau pwnc sydd gennym i’w cynnig.

Bydd gennym staff arbenigol a myfyrwyr presennol wrth law i roi cyngor ac arweiniad arbenigol ar gyrsiau, ceisiadau a bywyd coleg. Bydd myfyrwyr a rhieni yn darganfod yn uniongyrchol y profiadau addysgol y mae Grŵp Colegau NPTC yn eu darparu, yn cael cyfle i ddarganfod bywyd y tu allan i’r ystafell ddosbarth a gweld beth mae’r Coleg yn ei gynnig o ran gweithgareddau allgyrsiol.

 

Blwyddyn Newydd, Cyrsiau Newydd

Ydych chi’n chwilio am gyfle i ddysgu rhywbeth newydd heddiw? P’un a ydych am gael hobi newydd, ennill sgiliau neu ddechrau gyrfa newydd, yng Ngrŵp Colegau NPTC mae gennym ddewis ysbrydoledig a chyffrous o gyrsiau rhan-amser newydd sbon, sy’n dechrau ym mis Ionawr 2020.

Gyda phopeth o Ysgrifennu Creadigol i Osod Brics, bydd gennym gwrs yn sicr a fydd yn addas i chi, yn cynnwys  amrywiaeth o ddosbarthiadau dydd, gyda’r hwyr neu ar benwythnosau a all weddu i’ch ffordd o fyw.

Diddordeb? Ymunwch â ni yn ein cyfnod ymrestru agored o ddydd Llun 13eg Ionawr neu un o’n nosweithiau agored yng ngholegau Castell-nedd ac Afan.