Gwisgwch Binc

Cymerodd myfyrwyr Coleg Bannau Brycheiniog ran yn y Diwrnod Gwisgwch Binc (18 Hydref). Bu’r myfyrwyr a’r staff yn gwisgo dilledyn gyda phinc ynddo yn ogystal â chymryd rhan mewn gweithgareddau fel paentio ewinedd, gwerthu cacennau, dipiau lwcus a rafflau. Roedd diodydd pinc a siwgr candi hefyd yn cael eu gweini fel rhan o’r digwyddiad a gynhaliwyd i godi arian ar gyfer canser y fron.

Canser y fron yw’r canser mwyaf cyffredin ymhlith menywod ac ers y digwyddiad Gwisgwch Binc cyntaf a gynhaliwyd yn 2002 codwyd y swm anhygoel o £33m.

Dywedodd trefnydd y dydd, Darlithydd Porth Paul Evans: “Roedd hi’n wych gweld campws Bannau Brycheiniog yn cefnogi Diwrnod Ymwybyddiaeth Gwisgwch Binc y Campws gan y bydd un o bob wyth menyw yn datblygu canser y fron yn ystod eu hoes.”

Gyda chymorth myfyrwyr a staff, gwnaeth Coleg Bannau Brycheiniog godi £241. Diwrnod Gwisgwch Binc ar gyfer Canser y Fron yn un o’r digwyddiadau codi arian mwyaf yn y DU. Mae’n cael ei gynnal yn ystod Mis Ymwybyddiaeth Canser y Fron ym mis Hydref, a bydd miloedd o bobl anhygoel yn  gwisgo pinc yn eu cymunedau, ysgolion neu leoedd gwaith ar gyfer elusen canser y fron fwyaf y Deyrnas Unedig, sef Breast Cancer Now.

Mae Paul yn mynd ymlaen i ddweud: “Gweithiodd y myfyrwyr Porth yn ddiflino ar y stondin gacennau, gan werthu tocynnau raffl a gweithgareddau codi arian eraill drwy gydol y dydd ac am wythnosau ymlaen llaw, yn gwneud arddangosiadau wal a phosteri ar gyfer y digwyddiad. Maent wedi gwella eu sgiliau menter, gwerthu a marchnata drwy drefnu’r digwyddiad a fydd yn cyfrannu at eu cymhwyster. “