Canmolodd myfyrwyr a staff yng Ngwobrau Twristiaeth Canolbarth Cymru

Cafodd myfyrwyr a staff o’n hadran Arlwyo a Lletygarwch yng Ngholeg y Drenewydd ganmoliaeth ysgubol i’r gwasanaeth a’r bwyd a ddarparwyd ganddynt yng Ngwobrau Cyntaf Twristiaeth Canolbarth Cymru a gynhaliwyd ar 17eg Hydref 2019 yn Yr Hafren, Coleg y Drenewydd.

Bu’r Myfyrwyr Lefel 1, 2 a 3 yn darparu ar gyfer dros 220 o bobl a oedd yn cynrychioli’r diwydiant twristiaeth ledled y rhanbarth, gan gynnwys busnesau ac unigolion o Bowys, Bannau Brycheiniog, Ceredigion a Meirionnydd.

Cawsant wledd hyfryd a oedd yn cynnwys dewisiadau ar gyfer cyw iâr a saws bacwn mwg a tharagon neu strwdel madarch gwyllt gyda saws brandi a phuprennau.

Roedd Grŵp Coleagau NPTC yn falch o noddi’r wobr Person Ifanc y Flwyddyn a enillwyd gan Amy Clark o’r Nags Head yng Ngarthmyl. Cyflwynodd Mark Dacey, Prif Weithredwr Grŵp Colegau NPTC y wobr gan ychwanegu ei werthfawrogiad o ran y gwaith caled a’r hyfforddiant sy’n arwain at y cyfleoedd hyn.

Roedd Grŵp Colegau NPTC wrth ei fodd yn cael bod yn rhan o’r noson ac yn cydnabod pwysigrwydd y diwydiant twristiaeth yn yr ardal ac yng Nghymru yn gyffredinol.  Rydym yn falch o fod â hanes hir o ddarparu addysg a hyfforddiant ym mron pob maes, gan gynnwys teithio, twristiaeth a lletygarwch.