Mae Academi Lee Stafford yn cyrraedd Coleg Y Drenewydd

Lansiwyd Academi Lee Stafford ar gyfer Trin Gwallt, Gwaith Barbro a Therapïau Cymhwysol yn swyddogol yng Ngholeg Y Drenewydd gan y triniwr gwallt enwog Lee Stafford ar 15 Hydref o flaen tŷ llawn.

Mae’r Academi, sy’n rhan o bartneriaeth gyda’r Coleg, hynny yw Coleg Afan, Coleg Bannau Brycheiniog a Choleg Y Drenewydd, yr unig un o’i math yng Nghymru, gan gynnig hyfforddiant unigryw a dosbarthiadau meistr eithriadol i drinwyr gwallt newydd a salonau na fydd ar gael iddynt yn unman arall.

Nod yr Academi yw sicrhau mai myfyrwyr Grŵp Colegau NT yw’r rhai mwyaf cyflogadwy yn y wlad; fel steilyddion, technegwyr lliw neu mewn unrhyw faes trin gwallt o’u dewis.

Cafodd steilyddion y cyfle i fod yng nghwmni Lee Stafford ar y noson wrth iddo ddarparu arddangosiad byw o’i dechnegau torri diweddaraf.  Ymunodd rhai o staff trin gwallt arbenigol y Coleg ag ef ar y llwyfan, gan ddangos rhai o ryseitiau unigryw Lee sydd o safon Michelin: Pony Up, Twisted Tong a Big and Bouncy, gyda phob aelod o staff yn gweithio tuag at gyflawni eu ’10 mawr ‘ ym mhob un rysáit.

Cafodd ei ddosbarth meistr rhyngweithiol ei groesawu gyda brwdfrydedd mawr gan y gynulleidfa o berchnogion salon lleol. Cafodd y gwesteion eu croesawu gyda diodydd a canapés, wedi’u paratoi gan adran Celfyddydau Coginio a Lletygarwch y Coleg. Fe’u hymunwyd gan ‘WoW Dolls ‘, o adran celfyddydau perfformio’r Coleg. Cyn mynd ar y llwyfan, dywedodd Lee: ‘Mae’n hyfryd i fi gael lansio’r Academi Lee Stafford gyntaf erioed yma yng Nghymru. Rwyf wrth fy modd i fod mewn partneriaeth â Choleg mor frwd ac uchelgeisiol.

Dywedodd Juliana Thomas, Pennaeth yr Ysgol Trin Gwallt a Therapïau Cymhwysol: “Ni yw’r Coleg cyntaf a’r unig Goleg yng Nghymru sydd â phartneriaeth ag Addysg Lee Stafford ac mae hyn yn golygu mai ni yw’r unig goleg yng Nghymru i fod yn Academi Lee Stafford.

“Yn ystod 2019, mae pob aelod o staff trin gwallt wedi dilyn rhaglen hyfforddi ddwys eithriadol am dair wythnos i gynhyrchu technegau trin gwallt Lee Stafford o safon Michelin gydag wythnos arall o hyfforddiant wedi’i gynllunio ar gyfer y flwyddyn academaidd hon. Felly mae ein myfyrwyr hefyd wedi’u hyfforddi i’r safon uchel eithriadol hon gan fod pob un o’r staff yn cadw at holl ryseitiau Lee Stafford wrth ddarparu’r cymwysterau trin gwallt – myfyrwyr lwcus. ”

Bydd Lee Stafford yn dod yn ôl yn y gwanwyn ar gyfer digwyddiadau pellach, ond, os ydych yn salon sy’n dymuno gweithio gyda’r Coleg neu rywun sydd am ymuno â’r diwydiant trin gwallt, cysylltwch â ni.