Newydd ddod o’r coleg ac yn adeiladu’r dyfodol

Mae Persimmon Homes yn helpu i lywio dyfodol adeiladu yng Nghymru drwy gydweithio â Grŵp Colegau NPTC.

Mae Persimmon, un o’r prif adeiladwyr tai, wedi ffurfio partneriaeth gyda’r Coleg i hyfforddi myfyrwyr mewn technegau adeiladu modern, gan helpu i fynd i’r afael â’r prinder sgiliau cronig.

Yna, mae’r adeiladwr yn dewis y myfyrwyr gorau i weithio ar ei safleoedd adeiladu ledled de-orllewin Cymru.

Llwyddodd mwy na dwsin o fyfyrwyr a raddiodd yn ddiweddar o Grŵp Colegau NPTC i ennill achrediad NVQ Lefel 2 mewn Adeiladu Fframiau Pren.

Cymerodd lawer o staff newydd Persimmon yn 2018 y cam nesaf yn eu gyrfaoedd, gydag 16 o fyfyrwyr yn cyflawni’r cymhwyster Lefel 2, sy’n ei gwneud yn ofynnol iddynt drin a chodi’n ddiogel nifer o strwythurau pren gwahanol yn y gweithle.

Mae’r rhaglen wedi’i goruchwylio gan Kevin Rattenbury, meistr brentis, sydd wedi helpu’r myfyrwyr i uwchsgilio i’w statws Lefel 2.

Meddai Kevin: “O ystyried y bechgyn hyn wedi dod yn syth allan o’r coleg, maen nhw wedi gwneud yn arbennig o dda. Maen nhw wedi gwella llawer yn ystod y 12 mis diwethaf ac wedi gorfod gwneud llawer i gyrraedd statws Lefel 2, gan gynnwys codi paneli pren a gosod lloriau a thrawstiau.

“Bydd y myfyrwyr yn fantais fawr i Persimmon Homes. Mae’r criw wedi ennill llawer o sgiliau a gallant fod yn weithwyr gwych i’r cwmni yn y dyfodol. Maent wedi gweithio law yn llaw â rhai gweithwyr proffesiynol profiadol a gallwch weld yn glir eu bod wedi caffael rhai sgiliau gwerthfawr er mwyn ennill y cymhwyster.

“Rwy’n hapus iawn â’r ffordd y maen nhw i gyd wedi gwneud, mae’r rhaglen yn fuddiol iawn iddyn nhw, y gymuned a  Persimmon Homes”.

Dywedodd Mark Dacey, Pennaeth a Phrif Weithredwr Grŵp Colegau NPTC: “Rydym wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth gyda Persimmon Homes am dair blynedd yn helpu i fynd i’r afael â’r prinderau sgiliau o fewn y diwydiant adeiladu. Ar ddechrau’r Wythnos Adeiladwaith Genedlaethol, rydym yn edrych ar ddatblygu ein partneriaeth ymhellach ac rydym yn cydweithio ar hyn o bryd i helpu i gyflawni’r cymwysterau newydd yng Nghymru ar gyfer adeiladwaith a’r amgylchedd adeiledig.”