Mae’r Adran Plastro yn adeiladu ar lwyddiant

Unwaith eto mae’r Adran Plastro yng Ngrŵp Colegau NPTC wedi cael ei chydnabod gan Urdd y  Plaisterers am ei rhagoriaeth trwy ennill y Tlws Collino.

Mae’r tlws yn cael ei gyflwyno i golegau mwy’r DU gyda myfyrwyr sy’n astudio cyrsiau NVQ/SVQ Lefel 2/ICA/Diplomâu mewn Plastro ac sydd â’r ganran uchaf o fyfyrwyr sy’n llwyddo i gyflawni cymwysterau NVQ/SVQ lefel 2/ICA/Diplomâu (hynny yw’r Coleg sy’n perfformio ar ei gorau ym maes plastro ar lefel 2 yn y DU).

Mae’r adran plastro yng Ngrŵp Colegau NPTC yn parhau i gael ei chydnabod yn ffurfiol fel un o brif ddarparwyr addysg a hyfforddiant ym maes plastro yng Nghymru a’r DU a bydd unwaith eto yn cynrychioli’r Grŵp yn Llundain ym mis Tachwedd yn y Seremoni Wobrwyo.

Mae’r wobr hon yn nodweddiadol o’r gwaith caled a’r ymrwymiad i ragoriaeth y mae’r tîm plastro yn eu dangos ddydd ar ôl dydd gyda’u myfyrwyr.