Prif Ddarparwr Prentisiaethau Cymru yn dathlu pen-blwydd yn 10 oed

Mae Academi Sgiliau Cymru (SAW) yn dathlu 10 mlynedd o gynnig cyfleoedd llwyddiannus i bobl ifanc a’r rhai mewn cyflogaeth, i uwchsgilio ac ennill cymwysterau sydd wedi’u hachredu’n genedlaethol.   Yn ystod y cyfnod hwn, mae SAW wedi cefnogi dros 20,000 o unigolion i ennill cymwysterau sydd wedi eu helpu i wneud cynnydd yn y gyrfaoedd o’u dewis.  Cafodd SAW, dan arweiniad Grŵp Colegau NPTC, ei sefydlu ym mis Hydref 2009 drwy ddwyn ynghyd saith partner, ACO Training Limited, Jobforce Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Gwledig Llanelli (Hyfforddi LRC), ITeC Abertawe Cyfyngedig a Choleg y Cymoedd.  Mae darpariaeth SAW yn cwmpasu de a chanolbarth Cymru yn bennaf gyda pheth darpariaeth arbenigol yng ngogledd Cymru.  Dywed Nicola Thornton-Scott, Pennaeth Cynorthwyol Sgiliau yn Ngrŵp Colegau NPTC: “Mae wedi bod yn daith wirioneddol anhygoel gan ddod â chynifer o sefydliadau hyfforddi o’r un anian at ei gilydd, gyda darparu addysg a hyfforddiant rhagorol i unigolion a’n cymuned o gyflogwyr fel yr unig ddiben.  Academi Sgiliau Cymru oedd y consortiwm dysgu seiliedig ar waith cyntaf yng Nghymru, gan arwain y ffordd yn y sector.  Mae’n wych ein bod, unwaith eto eleni, wedi cael cadarnhad mai ni yw prif ddarparwr Prentisiaethau Cymru.  Mae hyn yn bwysig iawn i ni ym mlwyddyn ein 10  mlwyddiant.  Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at y 10 mlynedd nesaf, a pharhau i ddarparu addysg a hyfforddiant o ansawdd uchel sy’n ymateb i anghenion y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.”

 

I gael rhagor o wybodaeth am Brentisiaethau neu gyfleoedd hyfforddi eraill, cysylltwch ag Academi Sgiliau Cymru – louise.akers@nptcgroup.ac.uk, rhif ffôn – 01639 648325.