‘Tywydd braf i hwyaid’ yn Fferm Coleg Fronlas, Sul y Fferm Agored 2019

Roedd Coleg y Drenewydd yn croesawu ymwelwyr i’w fferm weithio ar 9 Mehefin fel rhan o Sul y Fferm Agored 2019 a’r tywydd yn ychwanegu at yr hwyl i lawer o’r gwesteion gyda’r gwyddau a’r plant yn cofleidio’r glaw.
Roedd y digwyddiad hwn a gydnabyddir yn genedlaethol ac a hyrwyddwyd gan LEAF yn gyfle gwych i bawb, yn hen ac yn ifanc, gael gwybod mwy am y gwaith a’r anifeiliaid ar y fferm.

Eleni, roedd ymwelwyr Fronlas yn cael eu diddanu gan anifeiliaid cyfeillgar, arddangosiadau a chystadlaethau. Roedd llawer i’w wneud dan do ac yn yr awyr agored gyda llygod i’w trin, gwyddau i’w bwydo, defaid i’w cneifio ac efelychydd palu dan do. Roedd plant ac oedolion fel ei gilydd yn helpu i adeiladu siediau, mynd i mewn ac allan o’r tractorau a oedd yn cael eu harddangos a rhoi cynnig ar addurno cacennau cwpan. Rhedodd llawer o ymwelwyr dan do wrth i’r glaw ddechrau ond roedd llawer a oedd yn mwynhau a sblasio yn y pyllau. Roedd digon o fwyd i’r ymwelwyr hefyd gan gynnwys byrgyrs blasus a oedd ar werth. Cefnogwyd y digwyddiad gan NFU, R.A.B.I. a Bees and Trees.

I gael rhagor o fanylion am Grŵp Colegau NPTC – Coleg y Drenewydd ewch i’n gwefan: www.nptcgroup.ac.uk/cy neu ffôn: 01686 614200.