Sweeney Todd

Perfformiwyd cynhyrchiad hynod o facâbr o Sweeney Todd yn Hafren gan fyfyrwyr Coleg y Drenewydd (rhan o Grŵp Colegau NPTC).  Roedd y fersiwn hwn o’r stori, ar ffurf drama gan C.G. Bond wedi’i berfformio gan fyfyrwyr y Celfyddydau Perfformio UAL Lefel 2 a Lefel 3.

Daethpwyd â hanes dychrynllyd ‘Sweeney Todd the Demon Barber of Fleet Street’ at ei gilydd gyda drama o ansawdd uchel, gyda phropiau creadigol a oedd yn diferu gwaed, goleuo effeithiol wedi’i bylu a set gyda chadair barbwr a thrapddor i ganiatáu dioddefwyr Sweeney Todd i ddiflannu’n ddramatig.

Darparwyd perfformiad gwych gan y cast a oedd wedi oeri a difyrru’r gynulleidfa.