Hazel yn Cyfarwyddo â Llwyddiant

Llongyfarchiadau i Hazel Wilson, Rheolwr Cynorthwyol Cymorth Astudio yng Ngrŵp Colegau NPTC sydd newydd gael ei phenodi i Fwrdd Cyfarwyddwyr Bowls y Byd. Mae’r penodiad yn dilyn nifer o lwyddiannau diweddar ar gyfer Bowls Menywod Cymru.

Mae Hazel newydd ddychwelyd o gystadleuaeth Ynysoedd Prydain gan orffen gyda’r Fedal Arian yn y Pedwarawd, gyda chyd-chwaraewyr o Glwb Bowlio Aberriw, tra hefyd yn rheoli tîm Cymru yn y gystadleuaeth a ddaeth yn drydydd.

Hazel hefyd oedd y rheolwr ar gyfer y Tîm Bowlio Menywod yng nghystadleuaeth yr Iwerydd yng Nghaerdydd ym mis Mai lle enillodd y tîm y Fedal Aur yn y pedwarawd i Fenywod a Medal Efydd yn y Parau Menywod.  Gorffennodd tîm Cymru yn bedwerydd yn gyffredinol allan o 23 sir. Canlyniad gwych! Mae’r canlyniad hwn yn golygu eu bod yn ennill lle yn World Bowls 2020 yn Yr Arfordir Aur.

Meddai John Bell, Llywydd Bowls y Byd, ynghylch penodiad Hazel i’r Bwrdd, ‘Hazel yn un o’r chwaraewyr proffesiynol gorau yn ei maes, yn gallu troi ei llaw at bob dim, ac rydym wrth ein bodd i gael ei chyfoeth o brofiad, ei brwdfrydedd a’i hagwedd gadarnhaol ar y Bwrdd.’

Mae gan Hazel fwy nag 20 mlynedd o brofiad mewn bowls ac mae’n chwaraewr gwych yn ei rhinwedd ei hun. Mae hi wedi cynrychioli Cymru yn ardderchog ers 1998; enillodd y teitl Unigol Cenedlaethol yn 1999; ac fe’i coronwyd yn Bencampwr Unigol Ynysoedd Prydain yn 2000.

Dywedodd Prif Weithredwr World Bowls, Gary Smith: “Dwi’n adnabod Hazel Wilson ers blynyddoedd, mae hi’n chwaraewr proffesiynol o’r radd flaenaf sy’n gwybod sut i gyflawni pethau, ac mae ei gwybodaeth am fowls heb ei hail. Bydd yn gaffaeliad mawr i’n sefydliad.”

Capsiwn Llun: Pob lwc Hazel!