O Grŵp Colegau NPTC gyda Chariad

Mae Grŵp Colegau NPTC yn un o’r llu o sefydliadau addysg bellach sy’n cefnogi Wythnos ‘Caru Ein Colegau’ ColegauCymru.

Cynlluniwyd yr ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o’r gwaith eithriadol sy’n digwydd mewn AB a’r staff ysbrydoledig sy’n ei wneud yn bosibl. Mae’r ymgyrch yn galw ar Lywodraeth Cymru am well buddsoddiad mewn colegau, a chyflogau teg i staff colegau.

Mae Grŵp Colegau NPTC, sy’n cynnig llu o gyrsiau ar draws naw safle gan wasanaethu un rhan o dair o dirfas Cymru, yn cymryd y cyfle hwn i amlygu cyflawniadau anhygoel myfyrwyr a staff eithriadol sy’n darparu canlyniadau rhagorol yn barhaus – cyfradd lwyddo sydd wedi rhagori ar 99 y cant am 13 mlynedd yn olynol. Rydym yn cynnig bron 40 Safon Uwch a nifer di-rif o gyrsiau galwedigaethol, ac, yn naturiol, mae’r Coleg yn falch o’r llwyddiannau sy’n ffynnu o’i galon sy’n curo – hynny yw’r myfyrwyr.

Mae’r coleg, ynghyd â darparwyr addysg bellach eraill, yn rhan hanfodol o ddysgu yng Nghymru, wrth ddarparu amrywiaeth o gyfleoedd dysgu gydol oes, o addysg alwedigaethol a thechnegol o’r radd flaenaf a sgiliau sylfaenol, i gymwysterau academaidd lefel uwch. Cenhadaeth Grŵp Colegau NPTC colegau yw ysbrydoli dysgu, cyfoethogi bywydau, darparu llwyddiant ac ‘mwy nag addysg yn unig’ yw ei slogan ac mae’r teimladau hynny wrth wraidd y Coleg drwyddo draw. Mae addysg yn bwysig, ond felly hefyd yw cyfoethogi, gwella a thyfu ei randdeiliaid a’r cymunedau y mae’r coleg yn eu gwasanaethu. At ei gilydd, mae effaith economaidd y sector addysg bellach yng Nghymru yn cyfateb i £4 biliwn y flwyddyn.

Nid cyfle yn unig i ddathlu llwyddiant yw Caru Ein Colegau, ond mae hefyd yn gyfle i dynnu sylw at sector sy’n cael ei anwybyddu a’i dangyllido. Flwyddyn ar ôl blwyddyn ers 2008, mae’r cyllid ar gyfer y sector AB wedi cael ei dorri. Heb gyllid digonol, ni all y sector barhau i gynnig y ddarpariaeth sgiliau o ansawdd uchel y mae ar Gymru ei hangen.

I wneud iawn am y diffyg cyllid, mae Grŵp Colegau NPTC yn gwneud popeth yn ei gallu i leihau ei ddibyniaeth ar arian Lywodraeth Cymru, drwy gael gafael ar nifer o is-gwmnïau i sicrhau ei fod yn parhau i weithredu ar y lefel uchaf. Heb yr incwm ychwanegol hwnnw, ni fyddai modd i’r coleg ddal i gynnig ei holl ddarpariaeth i’r cymunedau y mae’n eu gwasanaethu.

Dywedodd Mark Dacey, Prif Weithredwr a Phennaeth Grŵp Colegau NPTC:

“Rwy’n falch o gefnogi’r ymgyrch Caru Ein Colegau. Rwy’n caru Grŵp Colegau NPTC am nifer o resymau. Yn bennaf oll, mae’n newid bywydau pobl yn y cymunedau y mae’n eu gwasanaethu. Rydyn ni’n gweld pobl yn dod drwy ein drysau fel plant ysgol a gadael fel oedolion ifanc wrthi’n symud ymlaen at y bennod nesaf yn eu bywydau; rydyn ni’n gweld oedolion ifanc yn cychwyn ar eu taith i Addysg Uwch gyda’r ystod helaeth o gyrsiau gradd a phrifysgol yr ydyn ni’n eu cynnig; rydyn ni’n gweld oedolion sy’n dychwelyd i addysg er hunan-ddyrchafiad, datblygiad gyrfa, neu er llawenydd dysgu. Rydyn ni’n gweld busnesau, a’r rheiny mewn cyflogaeth, yn elwa o’r cyrsiau hyfforddi proffesiynol. Rydyn ni’n gweld y sbectrwm cyfan, ac rwy’n hynod o falch o’r cyfraniad y mae’r Coleg yn ei wneud i fywydau’r unigolion hynny a’n cymunedau.

“Mae Grŵp Colegau NPTC yn berchen ar nifer o is-gwmnïau y mae eu helw yn mynd yn ôl i addysg yng Nghastell-nedd Port Talbot a Phowys. Ond rydyn ni hefyd yn rhedeg nifer o fentrau cymdeithasol – nid er elw, ond oherwydd ein cyfrifoldeb cymdeithasol i ddarparu cyfleusterau ar gyfer y cymunedau yr ydyn ni’n eu gwasanaethu. Rydyn ni’n berchen ar ac yn gweithredu pwll nofio, cyfleuster lleol poblogaidd dros ben a oedd ar fin cau pan na allai’r cyngor dalu i’w gynnal bellach. Ar y cyd â Chyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Castell-nedd Port Talbot, ynghyd â grŵp buddiant cymunedol, Hamdden Gymunedol Cwm Afan, cymerodd Grŵp Colegau NPTC gyfrifoldeb dros weithredu’r pwll nofio, er bod yr amcanestyniadau ariannol yn dweud wrthon ni y byddai’n cael ei redeg ar golled. Roedd yn hanfodol i’r Coleg na chollwyd y cyfleuster cymunedol hwn. Hyd heddiw, mae’n parhau i fod yn un o’r adegau mwyaf balch i fi.”

Dywedodd Iestyn Davies, Prif Weithredwr ColegauCymru “Mae colegau’n chwarae rôl hanfodol wrth sicrhau bod pobl yn cael y sgiliau a’r wybodaeth gywir i gamu ymlaen i’r gweithle gyda hyder a helpu i gyfrannu at economi Cymru. Mae ColegauCymru yn gobeithio bod Llywodraeth Cymru yn gweld y gwerth y mae colegau yn ei gynnig a gofynnwn iddi barhau gyda’i chefnogaeth drwy gynnig cyllid digonol.

“Mae addysg bellach yn rhan hanfodol o system addysg Cymru sy’n datblygu. Dylai pawb allu cael mynediad at a’r cyfle i fwrw ymlaen ym maes addysg ni waeth beth fo’u cefndir. Rhaid i bawb cael y cyfle i ddilyn y llwybr mwyaf addas iddyn nhw hefyd, ac mae sicrhau bod ein colegau yn hygyrch ac wedi’u hariannu’n dda yn hanfodol yn hyn o beth.”