Tîm Plastro yn Adeiladu ar Lwyddiant Blaenorol

Llongyfarchiadau i’r cyn-fyfyriwr plastro Lisa Kostromin a ddaeth yn ail neithiwr yng ‘Ngwobr Myfyriwr y Flwyddyn y Plastrwyr’, cystadleuaeth blastro genedlaethol. Yn ddiweddar mae Lisa wedi cwblhau Diploma Lefel 2 mewn Plastro yng Nghanolfan Adeiladu Abertawe (rhan o Grŵp Colegau NPTC.)

Dywedodd Ian Lumsdaine, Pennaeth yr Ysgol: Adeiladwaith a’r Amgylchedd Adeiledig:

“Dyma’r bumed flwyddyn yn olynol y mae’r Coleg, a’r adran blastro, wedi’i gydnabod gan y cwmni pwysig hwn. Hoffwn fynegi fy llongyfarchiadau diffuant i Lisa ar gyflawniad rhyfeddol a dymuno llwyddiant iddi mewn cystadlaethau sydd ar y gweill, ac yn ei gyrfa yn y dyfodol. Llongyfarchiadau, hefyd, i’r tîm plastro ar flwyddyn lwyddiannus arall. ”

Nodyn y Golygydd: Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol ym mis Hydref 2018 a chafodd ei diweddaru i adlewyrchu canlyniad y gystadleuaeth. Gallwch ddarllen stori Lisa’n llawn isod.

 

Mae blwyddyn lwyddiannus arall ar y gweill i staff a myfyrwyr plastro Grŵp Colegau NPTC. Am y bumed flwyddyn yn olynol, mae myfyriwr o’r Ysgol Adeiladwaith a’r Amgylchedd Adeiledig wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Cymdeithas Anrhydeddus y Plastrwyr.

Roedd enwebiad Lisa Kostromin am Wobr Myfyriwr y Flwyddyn y Plastrwyr yn seiliedig nid yn unig ar ei sgiliau plastro eang ond hefyd ar ei thaith ysbrydoledig i ddilyn ei galwedigaeth.

Er gwaethaf cariad cynnar tuag at blastro a pheirianneg, roedd llwybr Lisa i’r grefft yn un cwmpasog. O fod yn artist, yn emydd ac yn dderbynnydd, yn ddylunydd ac yn berchennog busnes, gweithiodd Lisa’n galed mewn amrywiaeth o feysydd ond nid oedd yn gallu anwybyddu galwad y grefft yr oedd hi’n ei charu fel plentyn.

Ar ôl priodi, cymerodd Lisa y cam i ddilyn ei breuddwyd ac ymrestru ar gwrs adeiladwaith yng Ngrŵp Colegau NPTC. Erbyn hyn mae’n un o fyfyrwyr mwyaf talentog yr Ysgol, ac fe weithiodd yn galed i feistroli ei chrefft. Ar ôl cwblhau’r cwrs Lefel 1, penderfynodd ymgymryd â’r cymhwyster Lefel 2 fel prentis, er mwyn cael y profiad ymarferol o safle yr oedd yn ei ddymuno.

Aeth wedyn i’r gystadleuaeth Plastro Skillbuild Uwch, gan gystadlu yn erbyn myfyrwyr Lefel 3. Gan ennill ei lle o ranbarth de Cymru, creodd argraff ar y beirniaid gydag ansawdd ei gwaith a bydd yn mynd ymlaen i rownd derfynol Skillbuild. Cyflawnwyd hyn i gyd wrth gwblhau ei chwrs gyda graddau rhagoriaeth.

Ar ôl clywed ei bod wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr y Plastrwyr, dywedodd Lisa:

“Dechreuodd y bennod hon yn fy mywyd mewn Noson Agored yn y Coleg. Efallai fy mod ychydig yn hwyr yn bwrw iddi, a rhywfaint yn hŷn, ond yr wyf mewn sefyllfa i wneud yr hyn yr wyf eisiau ei wneud. Wrth adael yr ysgol, ni chefais fy annog i ddilyn fy mreuddwyd oherwydd nid oedd yn rhywbeth y dylai merch ei wneud. Roeddwn yn ddigon gwirion i wrando ar y cyngor hwnnw, ond mae menywod yn awr mewn lle gwell o lawer mewn cymdeithas a’r diwydiant adeiladu.”

“Ar ôl mynd i’r Noson Agored, yr oeddwn yn llawn egni a brwdfrydedd, gyda syniadau am yr hyn allai fod, yn troelli yn fy mhen. Siaradais gyda fy mhartner am y peth a phenderfynu cymryd y risg – yn ariannol ac yn emosiynol – i wneud yr hyn yr oeddwn wedi dymuno ei wneud erioed –  bod yn blastrwr fel fy nhad-cu.”

Wrth siarad am Lisa a’i henwebiad, dywedodd y darlithydd plastro,  Danny Meredith:

“Mae Lisa yn fyfyriwr rhyfeddol ac yn glod i’r Ysgol. Mae ei gwaith plastro ymysg y gorau a welodd ei haseswyr erioed, ac mae tystiolaeth o hyn wrth iddi wneud mor dda ar lefel gystadleuol yn erbyn myfyrwyr llawer mwy profiadol.”

Dywedodd Ian Lumsdaine, Pennaeth yr Ysgol: Adeiladwaith a’r Amgylchedd Adeiledig:

“Dyma’r bumed flwyddyn yn olynol y mae’r Coleg, a’r adran blastro, wedi’i gydnabod gan y cwmni pwysig hwn. Dymunaf bob llwyddiant i Lisa yn y seremoni wobrwyo, mewn cystadlaethau sydd ar y gweill, ac yn ei gyrfa yn y dyfodol. Llongyfarchiadau, hefyd, i’r tîm plastro ar flwyddyn lwyddiannus arall. ”

Cynhelir Gwobrau Cymdeithas Anrhydeddus y Plastrwyr ar 20 Tachwedd yn Neuadd Cymdeithas Anrhydeddus y Plastrwyr yn Llundain gyda’r enillydd yn cael ei gyhoeddi ar y diwrnod.