Adeiladu Sgiliau sy’n Addas ar gyfer yr 21ain ganrif

Wrth i’r DU ddathlu Wythnos Adeiladwaith â sioeau masnach a digwyddiadau, mae Grŵp Colegau NPTC yn brysur yn datblygu rhaglenni newydd i helpu i feithrin sgiliau ar draws y diwydiant.

Mae wedi lansio Grŵp Arweinyddiaeth Adeiladwaith Grŵp Colegau NPTC, a fydd yn datblygu cymwysterau newydd sy’n addas ar gyfer yr 21ain ganrif, yn cynnwys technoleg dronau, cartrefi fel gorsafoedd pŵer a’r cymhwyster ISG Lefel 3 newydd mewn Arfer Adeiladu Proffesiynol.

Mae’r Grŵp Arweinyddiaeth Adeiladwaith, sydd wedi cynnal ei gyfarfod cyntaf yn cynnwys aelodau o blith cyflogwyr yn y sector Amgylchedd Adeiledig, awdurdodau lleol, Addysg Uwch, landlordiaid cymdeithasol a ffederasiynau masnach. Arweiniwyd y cyfarfod gan Jeremy Miles AM.

Bydd y grŵp yn helpu’r Coleg i ddatblygu mewn partneriaeth ei gynnig datblygu sgiliau, drwy weithio gyda’r aelodau, a bydd yn cael effaith ar dwf economaidd y rhanbarth. Yn ystod y cyfarfod hefyd llofnodwyd dau Femoranda o Ddealltwriaeth arall gyda’r sector Gorffeniadau a Gwaith Mewnol (FIS), a’r Gymdeithas Gwasanaethau Peirianneg Adeiladu (BESA), a fydd yn cwmpasu meddwl a gweithio ar y cyd wrth ddatblygu sgiliau ar gyfer eu haelodau, ynghyd â datblygu’r rhai sydd eu hangen i gwrdd â gallu’r sector o ran technoleg adnewyddadwy ac uwch.

Mae’r Coleg hefyd yn gweithio mewn partneriaeth ymhellach i ffwrdd gydag awdurdodau a darparwyr addysg yn Nenmarc ac yn bwriadu rhannu syniadau ac arferion er mwyn helpu i ddatblygu strategaeth i wella effeithlonrwydd carbon a pherfformiad adeiladau yn y DU a Denmarc.

Yn nes adref, mae’r Coleg yn parhau i arwain y ffordd yng Nghymru drwy ddatblygu partneriaethau ac mae’n adeiladu ar ei gytundebau presennol, gyda Ffederasiwn Gwaith Coed Prydain, Y Gymdeithas Pren Strwythurol a’r Sefydliad Gosod Siopau.

Dywedodd Mark Dacey, Prif Swyddog Gweithredol a Phennaeth Grŵp Colegau NPTC: “Rydym yn gwybod bod y diwydiant adeiladu yn newid ac mae Grŵp Colegau NPTC yn edrych ar y sgiliau sydd eu hangen o fewn y sector ac yn darparu’r hyfforddiant a’r cymwysterau cyfatebol. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth ag eraill ac yn falch iawn i fod yn rhan o rywbeth a fydd yn sicrhau’r newid hwn sydd mawr ei angen o fewn y sector.”

Pic Cap: Atgyfnerthu Partneriaethau: Yn y llun yn llofnodi’r Memoranda o Ddealltwriaeth y mae Catherine Griffiths, Rheolwr Cymru Grŵp BESA; Mark Dacey, Prif Swyddog Gweithredol a Phennaeth Grŵp Colegau NPTC; Iain McIlwee, Prif Swyddog Gweithredol FIS Skills a Jeremy Miles, AC Castell-nedd a Chwnsler Cyffredinol.