Gosod y Sylfeini ar gyfer Bywyd ar ôl Rygbi

Bu Grŵp Colegau NPTC yn gweithio mewn partneriaeth â Chymdeithas Chwaraewyr Rygbi Cymru a’r Gweilch i gynnig sesiynau blasu mewn adeiladwaith i grŵp o chwaraewyr rygbi proffesiynol.

Cyflwynodd staff yng nghanolfan adeiladwaith Coleg Castell-nedd sesiynau i aelodau presennol sgwad y Gweilch, yn cynnwys yr aelodau Alumni Adam Beard, Reuben Morgan-Williams a James King.

Mae Cymdeithas Chwaraewyr Rygbi Cymru (CChRC) yn gymdeithas fasnach nid er elw sy’n cynrychioli llais cyfunol chwaraewyr rygbi yng Nghymru. Mae eu Rhaglen Datblygiad Personol yn cynorthwyo chwaraewyr i gyflawni cydbwysedd chwaraeon/ffordd o fyw yn ystod eu gyrfa ac yn eu hannog i fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd sydd ar gael iddynt fel chwaraewyr rygbi proffesiynol.

Wrth wneud hynny, yn y pen draw mae’n golygu bod pontio o’u gyrfa chwarae broffesiynol i gyflogaeth yn y dyfodol mor rhwydd â phosibl.

Dechreuodd chwaraewyr y Gweilch y diwrnod gyda sesiwn flasu ar osod brics ac erbyn diwedd y sesiwn roedden nhw wedi gosod a phwyntio wal. Nesaf oedd plastro, lle y dysgon nhw hanfodion rendro a sgrinio, ac yn olaf cyflwyniad i waith coed.

Dywedodd chwaraewr y Gweilch a Chymru, Adam Beard: “Roedd yn dda cael gwneud rhywbeth anghyfarwydd, a dysgu sgiliau a chrefftau newydd oherwydd mae bywyd ar ôl rygbi yn rhywbeth y mae’n rhaid ei ystyried o ddifrif.”

Cafwyd sylw tebyg gan Bryan Shenton, Dirprwy Bennaeth Ysgol – Adeiladwaith a’r Amgylchedd Adeiledig: “Mae’n wych cael gweithio mewn partneriaeth â CChRC a’r Gweilch i helpu i ddatblygu chwaraewyr ar gyfer bywyd ar ôl rygbi. Ar ôl chwarae ar lefel uchel fy hun, yr wyf yn deall yr heriau a wynebir gan chwaraewyr wrth iddynt ddechrau ar gam nesaf eu gyrfaoedd.  Rwy’n credu bod y bois wedi dangos sgil go iawn yma heddiw, a dymunaf yn dda iddynt waeth bynnag ddaw yn y dyfodol.”

Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau amser llawn a rhan-amser mewn adeiladwaith.

Cliciwch yma i ddarganfod mwy

Pic Caption: Yr alumni Adam Beard a Reuben Morgan-Williams yn dysgu hanfodion gosod brics yng Ngholeg Castell-nedd.