Proses 18 – Gwobrau Celf a Dylunio

Yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf, mae myfyrwyr Celf a Dylunio ar draws Grŵp Colegau NPTC yn arddangos eu gwaith mewn arddangosfa o’r enw ‘Proses 18’.

Eglurodd Pennaeth yr ysgol Celfyddydau Creadigol, Gweledol a Pherfformio, Vicky Burroughs, y syniad y tu ôl i’r arddangosfa; “mae gennym lawer o fyfyrwyr talentog wedi’u cofrestru ar gyrsiau Celf a Dylunio yng Ngholegau Afan, Castell-nedd a’r Drenewydd. Mae arddangosfa Proses 18 yn gyfle gwych i ddathlu ac i arddangos gwaith caled ac ymroddiad ein myfyrwyr a’n staff, arddangos gwaith y myfyrwyr mewn cyd-destun proffesiynol a dymuno’r gorau i’n myfyrwyr ail flwyddyn ar gyfer y cam nesaf yn eu gyrfa.

Eleni, i gydnabod llwyddiannau ein myfyrwyr, mae Coleg Celf Abertawe (PCYDDS) wedi cyflwyno gwobrau i’r myfyrwyr hynny sy’n astudio ar draws ein cyrsiau Lefel 2, 3 a Safon Uwch, gan dynnu sylw at faint y mae sefydliadau AU yn gwerthfawrogi doniau a sgiliau ein myfyrwyr”.

Yng Ngholeg Afan, ymunodd siaradwr gwadd â ni, yr artist Cymreig Peter Finnemore. Mae Peter wedi gweithio gyda’n myfyrwyr Lefel 2 & 3 eleni ar brosiect celf amgylcheddol ym Mharc Margam ac mae’n artist ffotograffig a pherfformio adnabyddus.

Dewisodd Peter Aimee Williams – Lefel 2 Celf a Jay Dowding – Lefel 3 Celf yn enillwyr y gwobrau.

Dewisodd Donna Williams – Cyfarwyddwr y cwrs BA Anrhydedd mewn Dylunio Graffig yng Ngholeg Celf Abertawe Hannah Thomas yn enillydd ar gyfer y Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio.

Yng Ngholeg Castell-nedd, cawsom gwmni ein partneriaid o Goleg Celf Abertawe: yr artist Cymreig adnabyddus yr Athro Sue Williams – Uwch Ddarlithydd ar y Radd BA Anrhydedd mewn Patrwm Arwyneb, Anna Lewis – Darlithydd ar y Radd BA Anrhydedd mewn Patrwm Arwyneb a Paul Duerinckx -Uwch Ddarlithydd ar y Radd BA Anrhydedd mewn Newyddiaduraeth Ffotograffig.

Y rhestr lawn o enillwyr yng Ngholeg Castell-nedd oedd:

Safon Uwch Dylunio 3D – Ethan Kuzniar (cyflwynwyd gan Anna Lewis – Darlithydd ar y Radd BA Anrhydedd mewn Patrwm Arwyneb.)

Safon Uwch Tecstilau – Erin Evans (cyflwynwyd gan Anna Lewis – Darlithydd ar y Radd BA Anrhydedd mewn Patrwm Arwyneb.)

Safon Uwch Celfyddyd Gain – Rachel Davies – (cyflwynwyd gan yr Athro Sue Williams – Uwch Ddarlithydd ar y Radd BA Anrhydedd mewn Patrwm Arwyneb yng Ngholeg Celf Abertawe.)

Safon Uwch Celf a Dylunio – Nia Woolcock – (cyflwynwyd gan yr Athro Sue Williams – Uwch Ddarlithydd ar y Radd BA Anrhydedd mewn Patrwm Arwyneb yng Ngholeg Celf Abertawe.)

Safon Uwch Ffotograffiaeth – Michaela Shahini (cyflwynwyd gan Paul Duerinckx – Uwch ddarlithydd ar y Radd BA Anrhydedd mewn  Newyddiaduraeth Ffotograffig yng Ngholeg Celf Abertawe.)

Safon Uwch Graffeg Thomas Hamess

Cyflwynwyd y wobr am Ddylunio Graffeg eleni gan y cyn-fyfyrwyr Ling Dong, Callum Lewis ac Ashleigh Chivers, sy’n astudio ar hyn o bryd ar y BA Anrhydedd mewn Dylunio Graffeg yng Ngholeg Celf Abertawe. Mae pob un o’r cyn-fyfyrwyr hyn yn gwneud yn eithriadol o dda ar eu cyrsiau gradd ac mae eu Cyfarwyddwr Cwrs Donna Williams wedi dweud wrthym fod y sgiliau a addysgwyd iddynt ar y cyrsiau Celf a Dylunio yng Ngrŵp Colegau NPTC wedi rhoi sylfaen gref iddynt lwyddo mewn Addysg Uwch. Bydd y tri  myfyriwr yn arddangos y flwyddyn nesaf yn yr Arddangosfa Dylunwyr Newydd yn Llundain.

Gallwch weld rhagor o luniau a fideos o’r arddangosfeydd ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Cliciwch yma i ddarganfod mwy am Gelf a Dylunio yng Ngrŵp Colegau NPTC.