Myfyrwyr Grŵp Colegau NPTC yn Cyrraedd y Nod

Mae myfyrwyr yng Ngrŵp Colegau NPTC yn dathlu ar ôl cyflawni canlyniadau arbennig yn eu cymwysterau Safon Uwch a galwedigaethol. Mae llawer wedi sicrhau lleoedd yn y prifysgolion gorau ac wedi cael y cymwysterau i ennill eu swyddi delfrydol ar ôl llwyddo i sicrhau’r graddau yr oedd eu hangen arnynt.

Am y 13eg flwyddyn yn olynol mae’r gyfradd lwyddo gyffredinol ar gyfer Safon Uwch wedi para yn uchel dros ben, sef 99 y cant. Cyflawnodd y myfyrwyr gyfradd lwyddo ragorol o 100 y cant yn y 34 o bynciau Safon Uwch, a chyflawnodd 45 y cant raddau A* i B gyda 74 y cant arall yn ennill graddau A* i C.

Hefyd enillodd 90 o fyfyrwyr raddau rhagoriaeth driphlyg yn y cymwysterau Diploma Cenedlaethol Estynedig, gyda 28 o fyfyrwyr yn cyflawni’r proffil graddau uchaf posibl, sef D* D* D*.

Llwyddodd mwy na 266 o fyfyrwyr yn eu Tystysgrif Her Sgiliau Cymhwyster Bagloriaeth Cymru â chyfradd lwyddo eithriadol o 94%.

Dywedodd Mark Dacey, Prif Swyddog Gweithredol a Phennaeth Grŵp Colegau NPTC: “Llongyfarchiadau i’n myfyrwyr sydd unwaith eto wedi cyflawni cyfradd lwyddo o 99 y cant am y 13eg flwyddyn yn olynol. Rydym yn hynod falch o’u cyflawniadau gan gynnwys ein myfyrwyr sy’n dilyn y rhaglen Dawnus a Thalentog (GATE) fel rhan o’n Hacademi Chweched Dosbarth lle enillodd 87 y cant raddau A*- A a 96 y cant raddau A*- B.”

Dywedodd Jeremy Miles, yr Aelod Cynulliad dros Gastell-nedd: “Llongyfarchiadau i bawb sy’n derbyn y canlyniadau y maent wedi gweithio’n galed i’w cyflawni. Rwy’n falch iawn bod myfyrwyr ar draws Castell-nedd unwaith eto wedi dangos i’r wlad pa mor wych ydynt. P’un a y gweithle, prentisiaeth neu’r brifysgol yw’r cam nesaf, mae’r canlyniadau hyn yn dangos y byddant yn parhau i lwyddo ym mha bynnag faes y maent yn ei ddewis”.

Mae llawer o fyfyrwyr yn awr wedi sicrhau eu lle yn y Brifysgol neu’n dechrau ar brentisiaeth neu swydd. Dyma rai o’u straeon.

Eve Vincent: A*, Ffrangeg; A, Saesneg; A Hanes. Mynd i astudio Ffrangeg a Rwsieg ym Mhrifysgol Caergrawnt. Mae’r cyn-ddisgybl Cefn Saeson yn hynod falch o’i chanlyniadau ac yn edrych ymlaen at ddilyn ei breuddwyd o fod yn gyfieithydd ar y pryd.  Yn ogystal ag astudio ar gyfer ei Safon Uwch, addysgodd Eve Rwsieg iddi hi’i hun gyda help myfyriwr o Rwsia a oedd yn astudio Saesneg Iaith yn y Coleg. “Mae bob amser wedi bod yn iaith a oedd o ddiddordeb i mi, a’r diwylliant hefyd,” dywedodd Eve.  Ni feddyliais y gallai rhywun fel fi fynd i rywle fel Caergrawnt. Yr wyf yn falch o’m gwreiddiau ac yn dod o ystâd cyngor. Mae’n dangos nad oes rhwystrau ac yr wyf yn llawn cyffro ar gyfer y dyfodol,” ychwanegodd.

Abigail Owen: A, Drama ac Astudiaethau Theatr; A, Cerddoriaeth; B, Mathemateg;  B, Saesneg Llenyddiaeth. Mae Abigail yn mynd i astudio Cerddoriaeth yng Ngholeg Iesu, Rhydychen. Dywedodd Abi, sydd wrth ei bodd: “Mae astudio Cerddoriaeth Safon Uwch wedi fy ngalluogi i ddatblygu fy nealltwriaeth o’r pwnc o’r technegau a dadansoddi cyfansoddiadau cerddorol ymhellach. Rwy’n edrych ymlaen at astudio ym Mhrifysgol Rhydychen lle y gallaf  adeiladu ar fy theori gerddorol ac edrych ymhellach ar y materion cyfoes mewn cerddoleg.”

Finlay Powell-Jones: A*, Mathemateg; A*, Bioleg; A* Cemeg. Cyn-ddisgybl Ysgol Gyfun Cwmtawe yn mynd i Brifysgol Birmingham i astudio Meddygaeth. ‘Amser gwych yn y Coleg – roedd y gefnogaeth yn wych ac mae hynny’n dangos yn fy nghanlyniadau heddiw!”.

Cameron Edwards: A, Y Gyfraith; A, Saesneg Iaith/Llenyddiaeth; A, Ffrangeg. Mae’r cyn-ddisgybl Cymer Afan yn awr yn mynd i Brifysgol Abertawe i astudio’r Gyfraith.

Stephen John: A*, Cemeg; B, Ffiseg; B, Cerddoriaeth.  Yn mynd i astudio Meddygaeth Filfeddygol ym Mhrifysgol Surrey.

Sam Morris: A, Mathemateg; B, Cemeg; B, Bioleg. Cyn-ddisgybl Ysgol Gyfun Llangatwg, nawr yn mynd i astudio Fferylliaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.

Carys Mainwaring: BTEC Diploma Estynedig Lefel 3 D* D* D*, Chwaraeon (Datblygu, Hyfforddi a Ffitrwydd). Mae Carys yn mynd i astudio Chwaraeon ym Mhrifysgol Caerdydd.

Sophie Herbert: BTEC Diploma Estynedig Lefel 3, D* D* D*, Teithio a Thwristiaeth. Cyn-ddisgybl Ysgol Llangatwg yn mynd i astudio Gwasanaethau Cyhoeddus yn y brifysgol.

Rosie Courts: BTEC Diploma Estynedig Lefel 3 D* D* D* Gwyddoniaeth Gymhwysol (Gwyddor Fforensig). Mynd i Brifysgol Abertawe i astudio Awdioleg.

Alex Morris: A, Bioleg; B, Cemeg; B, Addysg Gorfforol. “Mae’n rhyddhad bod y cwbl ar ben”, dywedodd y cyn-ddisgybl Dŵr-y-Felin. Bellach yn edrych ymlaen at astudio’r Gwyddorau Meddygol ym Mhrifysgol Caerwysg.

Ellie-May Varney: A*, Cymdeithaseg; B, Seicoleg; B, Saesneg Iaith/Llenyddiaeth. Yn dymuno astudio Seicoleg yn y brifysgol.

Jordan Whapham: A, Mathemateg; A, Ffiseg; B, Bioleg. Mynd i Brifysgol Caerdydd i astudio Astroffiseg.

India Needs: A*, Y Gyfraith; A* Astudiaethau Crefyddol; A, Seicoleg. Cyn-ddisgybl Dyffryn yn mynd i astudio’r Gyfraith ac Astudiaethau Ewropeaidd ym Mhrifysgol Southampton.

Shauna Wright: A, Iechyd a Gofal Cymdeithasol; A, Cymdeithaseg; B, Hanes; A,  Bagloriaeth Cymru. Mynd i Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant i fod yn athrawes ysgol gynradd.

Abigail Phillips: A, Cymdeithaseg; B, Iechyd a Gofal Cymdeithasol; C, Astudiaethau Crefyddol; A, Bagloriaeth Cymru. Cyn-ddisgybl Cefn Saeson yn mynd i Brifysgol Abertawe i astudio Iechyd Meddwl.

Camron Griffiths: A, Y Gyfraith; A, Cymdeithaseg; B, Hanes; A, Bagloriaeth Cymru. Cyn-ddisgybl Gellifedw ym mynd i Brifysgol Caerdydd i astudio’r Gyfraith a Gwleidyddiaeth.

Caitlin John: A*, Bioleg; A, Mathemateg: B, Cemeg. Cyn-ddisgybl Llangatwg yn mynd i Brifysgol Caerdydd i astudio Radiotherapi ac Oncoleg.

James Edwards: A, Mathemateg; B, Ffiseg; B, Cyfrifiadureg. Cyn-ddisgybl Dŵr y Felin yn mynd i Leamington Spa i ddilyn Prentisiaeth Gradd mewn Peirianneg gyda Jaguar Landrover. Cafodd James ei dderbyn ar y rhaglen hynod gystadleuol hon ar ôl cais heriol, cyfweliad a rowndiau o asesiadau.

Erin Evans: A*, Tecstilau; A*, Graffeg:  A, Celf a Dylunio. Cyn-ddisgybl Llangatwg sy’n aros yn y Coleg i astudio’r flwyddyn sylfaen mewn Celf a Dylunio cyn mynd i’r Brifysgol.

Caitlin Reeves: BTEC Diploma Estynedig Lefel 3 D* D* D* Gwyddoniaeth Gymhwysol (Gwyddor Fforensig).  Cyn-ddisgybl Cwmtawe, sydd yn awr yn mynd i UWE Bryste i astudio Gwyddor Fforensig.

Caitlin Davies: BTEC Diploma Estynedig Lefel 3, DDD, Teithio a Thwristiaeth. Cyn-ddisgybl Cefn Saeson yn mynd i Brifysgol Abertawe i astudio Rheoli Busnes.

Sophie Williams: BTEC Diploma Estynedig Lefel 3 D*D*; C, Cerddoriaeth (Safon Uwch). Cyn-ddisgybl Dŵr y Felin sy’n aros yng Ngrŵp Colegau NPTC i astudio HND mewn Cerddoriaeth. Chwaraewr clarinét, sacsoffon a’r ffliwt sy’n breuddwydio am chwarae mewn cynyrchiadau’r West End yn y dyfodol.

Emily Richards: A*, Celfyddyd Gain; A*, Tecstilau; B Daeareg. Mae’r cyn-ddisgybl Cefn Saeson wedi dewis peidio â mynd i’r brifysgol ond i fod yn nyrs filfeddygol gynorthwyol ym milfeddygfa leol St. James yng Nghastell-nedd.