Mae cyfleusterau Chwaraeon y Coleg yn llwyddiant ysgubol

Mae Academi Chwaraeon Llandarcy (rhan o Grŵp Colegau NPTC) yn llwyddiant ysgubol gyda myfyfrwyr a’r gymuned yn gyffredinol.

Ymwelodd Y Gweinidog dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, yr Arglwydd Ellis Thomas â’r campws brysur i weld drosto’i hun y cyfleusterau dosbarth cyntaf sydd ar gael ynghyd â’r gwaith y mae’r Coleg yn ei wneud i wella iechyd, ffitrwydd a llesiant cyffredinol pobl sy’n byw yn yr ardal.

Aeth yr Arglwydd Ellis Thomas ar daith o amgylch y cyfleusterau a ddefnyddir nid yn unig gan y cannoedd o fyfyrwyr yno ond gan glybiau chwaraeon amatur a phroffesiynol ynghyd ag ysgolion lleol a’r cyhoedd yn gyffredinol. Mae’r cyfleusterau yn cynnwys neuadd chwaraeon o’r radd flaenaf, gyda wal ddringo, a ddefnyddiwyd gan dîm pêl-rwyd y Dreigiau Celtaidd ar gyfer gemau cyfeillgar yn erbyn timau cenedlaethol a rhyngwladol eraill ac yn ogystal â hyn, mae sgubor hyfforddi dan do a maes 3G. Yn ogystal â’r Gweilch, rhoddwyd sel eu bendith ar y cyfleusterau gan dimau’r ymwelwyr rhyngwladol, yn cynnwys sgwad rygbi Awstralia a wynebodd her yno.. Mae trac rhedeg o’r radd flaenaf a gym ar flaen y gad hefyd.

Roedd hefyd amser ganddo i wylio Llysgenhadon Aur y Coleg sy’n astudio Chwaraeon L2 wrthi’n hyffordi plant ysgolion cynradd lleol i chwarae criced.

Cyfarfu ag ymwelwyr yn ogystal â staff y Coleg yn cynnwys Gaynor Richards, Cadeirydd y Llywodraethwyr yng Ngrŵp Colegau NPTC a Catherine Lewis, y Dirprwy Brif Weithredwr. Roedd gwestai arbennig arall sef Dan Lydiate, chwaraewr rhyngwladol yn nhîm Cymru, aelod o dîm y Llewod Prydain a chyn-chwaraewr gyda’r Gweilch, ac roedd Dan hefyd yn gyn-fyfyriwr yng Ngholeg Bannau Brycheiniog, rhan o Grŵp Colegau NPTC. Astudiodd Dan Lefel 3 BTEC Chwaraeon a Gwyddor Ymarfer Corff ac roedd hefyd yn aelod o dîm rygbi Colegau Cymru. Mae Dan yn rhan o’r Alumni (h.y.ein cyn-fyfyrwyr) sydd hefyd yn cynnwys Dan Baker, Ashley Beck, Duncan Jones, James Hook, Chelsea Lewis, Nichola James, Joe Allen a Hayley Tullett.